Cynnal arolwg o safleoedd a chyfleu eich canfyddiadau

URN: LANTw64
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal arolwg o safleoedd a chyfleu eich canfyddiadau. Gall dulliau arolygu gynnwys cyfrif, samplu a mapio.

Yn dibynnu ar natur y safle a'r gwaith sefydlu a gynllunnir, gall arolygon gynnwys planhigion, anifeiliaid, pobl, nodweddion ffisegol, mathau o gynefinoedd, priddoedd ac amodau tyfu

Byddwch yn gweithio i fanyleb a byddwch yn cynnal yr arolwg yn ei herbyn. Mae disgwyl i chi gael dealltwriaeth o ddulliau arolygu gwahanol. Yn y rhan fwyaf o arolygon bydd disgwyl i chi ddefnyddio ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd.

Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â chyfathrebu canfyddiadau arolygon yr ydych wedi eu cynnal.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. egluro eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran gweithgaredd yr arolwg
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis a defnyddio technegau arolwg addas yn unol â manyleb yr arolwg
  5. casglu data sy'n bodloni gofynion manyleb yr arolwg
  6. sicrhau nad yw effaith eich gwaith na mynediad yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd
  7. cadw cofnodion cywir a chyflawn o'r data a gasglwyd
  8. cyflwyno eich canfyddiadau mewn ffordd briodol, sydd yn cynnwys y data ategol angenrheidiol
  9. cyfathrebu eich canfyddiadau yn y raddfa amser angenrheidiol yn unol â'r gofynion
  10. ymateb i geisiadau am fwy o eglurhad ac esboniad o wybodaeth mewn ffordd briodol
  11. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon a chydymffurfio â mesurau rheoli asesiadau risg
  2. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  3. eich rôl a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â gweithgaredd arolwg
  4. yr ystod o dechnegau arolwg sydd ar gael, eu manteision ac anfanteision ac egwyddor eu defnyddio
  5. yr ystod o ddata sy'n cael ei gasglu a'i arwyddocâd, yn cynnwys mathau a ffynonellau
  6. y camau i'w cymryd os oes anhawster yn cael data
  7. y dulliau o gasglu data sylfaenol ac eilaidd
  8. y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth ansoddol a meintiol a sut i gasglu'r data hwn
  9. y ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth yn glir ac mewn ffordd sy'n briodol i ddiben y wybodaeth a'r defnydd a fwriadwyd
  10. dulliau cyfathrebu addas
  11. pwysigrwydd gwerthuso'r camau a gymerir wrth ymdrin ag anawsterau yn cynnal arolygon safle a chyflwyno'r data
  12. effeithiau posibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut i reoli'r effeithiau hyn
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol gyfredol a deddfwriaeth berthnasol arall

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Casglu data ansoddol a meintiol


Gwybodaeth Cwmpas

​Gallai technegau arolygu gynnwys:

  • mapio
  • defnyddio offer a meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)
  • cwadrat
  • rhwydo/cyfrif
  • profion pH
  • arolwg ecolegol

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai arolygon gynnwys:
arolygon planhigion: presenoldeb neu doreth o rywogaethau penodol (coediog neu ddim yn goediog); tresmasiad rhywogaethau nas dymunir; effeithiau gwahardd anifeiliaid sy'n pori o ardal benodol
arolygon anifeiliaid: pwysau pori, presenoldeb rhywogaethau posibl o blâu
arolygon pobl: pwysau ymwelwyr, defnydd presennol o safle
arolygon nodweddion ffisegol: statws gwrychoedd, waliau neu ffensys sy'n ffinio; problemau erydu
arolygon mathau o gynefinoedd
arolygon amodau pridd a thyfu: math a chyflwr pridd; draeniad safle; amodau amgylcheddol trechaf


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

LANTw64

URN gwreiddiol

LANTw64

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arolwg; canfyddiadau; meintiol; data