Datblygu cynllun rheoli coetir

URN: LANTw63
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynllun rheoli coetir.

Er mwyn datblygu cynllun rheoli bydd angen adnabod agweddau a nodweddion allweddol y coetir, ac i bennu'r amcanion rheoli allweddol sydd eu hangen.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  3. egluro'r diben, y cwmpas a'r amcanion ar gyfer y coetir i gael ei reoli
  4. nodi lleoliad a mynedfa'r coetir
  5. darparu cyfeirnod grid a mesur maint y safle gan ddefnyddio offer a ffynonellau gwybodaeth priodol
  6. adnabod a chofnodi agweddau allweddol o'r coetir
  7. adnabod a chofnodi nodweddion arwyddocaol eraill yn y dirwedd
  8. adnabod a chofnodi unrhyw werthoedd arbennig
  9. dadansoddi'r wybodaeth yr ydych wedi ei chasglu
  10. pennu strategaeth hirdymor ar gyfer y coetir a datblygu cynllun rheoli coetir
  11. adnabod yr amcanion rheoli mewn perthynas â'r coetir
  12. pennu sut bydd effeithiolrwydd eich cynllun rheoli'n cael ei fonitro a pha mor aml
  13. cofnodi a chyflwyno gwybodaeth ar fformat priodol i fodloni gofynion
  14. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. diben, cwmpas ac amcanion y coetir i gael ei reoli
  5. sut i ddarllen mapiau Arolwg Ordnans a dehongli dulliau safonol o farcio
  6. sut i ddefnyddio offer GPS
  7. sut i fesur ardaloedd o fapiau a maint y safle o'r tir
  8. pwysigrwydd cael ystod o rywogaethau a gwneud stocrestr o goed
  9. y rhesymau pam y dylid cofnodi gwybodaeth
  10. sut i adnabod a chydgrynhoi agweddau allweddol ac ystyried eu heffaith
  11. sut i ymgorffori agweddau allweddol i gynllun rheoli coetir
  12. ble i gael gwybodaeth yn ymwneud â mynediad arfaethedig presennol ac i'r dyfodol
  13. sut i bennu strategaeth hirdymor ar gyfer y coetir
  14. pa ddulliau gwerthuso y gellid eu defnyddio a sut i bennu'r dull mwyaf effeithiol
  15. y ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â choetir
  16. pwysigrwydd adnabod ac ymgynghori â'r holl randdeiliaid
  17. y cyfrifoldebau cyfreithiol yn ymwneud â rhywogaethau coetir sy'n cael eu gwarchod, rheoli coetir a mynediad i goetir
  18. manteision ac anfanteision ystod o dechnegau arolygu a sut i ddefnyddio'r rhain
  19. ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd
  20. y dulliau o gasglu data
  21. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Agweddau allweddol:

  • priddoedd, draeniad
  • agweddau hanesyddol, yn cynnwys defnydd yn y gorffennol
  • rhywogaethau coed a llwyni, coed trechol a llwyni toreithiog o dan goed
  • oed, dosbarth a dosbarthiad coed
  • cadw stoc, cyfansoddiad a chyflwr unrhyw adfywio naturiol
  • fflora ar y ddaear, rhywogaethau trechol ac unrhyw rywogaethau anarferol
  • ffawna, yn arbennig unrhyw rywogaethau prin neu nodedig
  • nodweddion archeolegol
  • unrhyw fygythiadau neu beryglon neu nodweddion arwyddocaol eraill

Gwerthoedd arbennig:

  • y cnydau i gael eu cofnodi
  • fformat y stocrestr
  • y cywirdeb a'r eglurder sydd yn angenrheidiol o'r stocrestr
  • diweddaru mapiau stoc
  • y gofynion amgylcheddol a chadwraeth mewn deddfwriaeth ac o'ch sefydliad

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw63

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

coetir; cynllun; rheolaeth; agweddau; coed; rhywogaethau