Gwerthuso marchnadoedd ar gyfer gwerthu cynnyrch a gwasanaethau coedwig a choetir

URN: LANTw62
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso marchnadoedd ar gyfer gwerthu cynnyrch a gwasanaethau coetir. Gall hyn gynnwys pren a chynnyrch eraill.

Mae hefyd yn cynnwys ymchwilio i farchnadoedd, ac adnabod cynnyrch a gwasanaethau pren a rhai nad ydynt yn bren sydd ar gael i'w gwerthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwerthuso marchnadoedd ar gyfer gwerthu cynnyrch a gwasanaethau coedwig a choetir
  2. asesu addasrwydd cynnyrch a gwasanaethau coetir i fodloni gofynion y farchnad
  3. pennu'r fanyleb a maint yr holl gynnyrch i gael ei farchnata
  4. meintioli a phrisio'r cynnyrch i gael ei farchnata
  5. pennu'r dull a'r man gwerthu yn unol â gofynion eich sefydliad
  6. cael yr elw gorau ar gyfer pob cynnyrch a gwasanaeth sydd ar gael, yn effeithlon, ac yn unol â pholisïau eich sefydliad
  7. cadw cofnodion cywir a diweddar, yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gofynion eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pam y dylid gwerthuso marchnadoedd a chanlyniadau peidio gwneud hynny
  2. ffactorau byd-eang sy'n dylanwadu ar ac yn effeithio'r diwydiant
  3. y ffactorau all effeithio ar addasrwydd marchnadoedd
  4. gwerthoedd marchnad cynnyrch a gwasanaethau gwahanol
  5. sut y gellir defnyddio tystiolaeth hanesyddol
  6. sut i ddechrau a chynnal cyfathrebu effeithiol
  7. sut i ymchwilio i ofynion a chyfyngiadau'r farchnad
  8. sut i ddehongli manyleb cynnyrch
  9. y cyfyngiadau gweithredol posibl a allai fodoli
  10. y pwyntiau gwerthu gwahanol ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau coedwig a choetir
  11. sut i greu amcangyfrifon o'r gwariant sy'n ofynnol i gael incwm
  12. prisiau cyfredol y farchnad ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau amrywiol
  13. sut i gael mynediad i a dehongli cromliniau prisiau, a chromliniau maint prisiau lleol
  14. goblygiadau amseru a grwpio gwerthiannau ar gyfer cael yr effaith orau posibl
  15. y dulliau gwerthu gwahanol ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau coedwig a choetir
  16. sut i werthuso a dehongli dewisiadau amgen contractau
  17. argaeledd a thymoroldeb marchnadoedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Pennu manyleb a meintiau pob cynnyrch i gael ei farchnata:

  • amser cyflenwi
  • manylebau cynnyrch
  • tystiolaeth hanesyddol

Meintioli a phrisio'r cynnyrch i gael ei farchnata:

  • cost cynhyrchu
  • cludiant
  • dibynadwyedd y farchnad

Cael yr elw gorau trwy:

  • osod y pris a'r gronfa wrth gefn
  • dewis y dull o hyrwyddo
  • dewis y dull gwerthu
  • dewis y man gwerthu
  • amseriad a'r grŵp gwerthu

Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cynnyrch a gwasanaethau eraill – dail, hadau a chonau, mwsogl, rhisgl, cyfleusterau adloniant a chyfleusterau chwaraeon

Dewisiadau contract amgen – contractau byr, canolig a hirdymor, cyfnodau contract, ac ati

Dylanwadau byd-eang – cyfraddau cyfnewid, galw byd-eang, trawsfudiad clefydau, newid hinsawdd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw62

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

coedwig; coetir; pren; cynnyrch