Codi gwrychoedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion ar gyfer codi gwrych.
Mae'r safon hon yn cynnwys adnabod y rhywogaethau o blanhigion yr ydych yn gweithio gyda nhw a phennu diben y gwrych. Mae'n rhaid i chi hefyd feddu ar wybodaeth o rywogaethau eraill a nodweddion y rhywogaethau hynny a'u haddasrwydd ar gyfer codi gwrychoedd.
Mae'n rhaid i chi bennu'r math o wrych i gael ei osod a'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar y ffordd yr ydych yn gweithio. Er y gallech weithio'n bennaf gydag un arddull, mae'n rhaid i chi hefyd fod yn ymwybodol o arddulliau rhanbarthol eraill.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- adnabod prif ddiben a rhywogaethau'r gwrych
- pennu'r arddull ar gyfer codi'r gwrych, gan ystyried amrywiadau rhanbarthol
- mesur hyd y gwrych i gael ei godi ac amcangyfrif y deunyddiau sydd eu hangen
- gwirio am bresenoldeb ceblau cyfleustod a ffensys
- adnabod a chytuno pa goedwrych sydd i gael eu cadw, ac a oes unrhyw fesurau amddiffyn arbennig yn bodoli
- amcangyfrif nifer y planhigion sydd eu hangen i ail-lenwi'r bylchau
- adnabod y cyfeiriad y caiff y gwrych ei godi a ble bydd y codi'n dechrau
- dewis, paratoi, cynnal a storio offer sy'n briodol ar gyfer y gwaith
- paratoi'r gwrych ar gyfer ei osod
- tynnu pren marw a deunydd diangen arall
- dewis, codi a gosod plygwyr ar yr ongl gywir, gan gynnal onglau hyfyw a lleihau bonion yn briodol
- llenwi bylchau fel y bo'n briodol
- miniogi a gosod polion mewn bylchau penodedig, clymu'r gwrych a thorri'r polion i lawr, yn unol ag arddull y gwrych
- dileu'r holl wastraff a'r deunyddiau dros ben a'u gwaredu fel y nodwyd
- gwneud gwaith mewn ffordd sy'n lleihau niwed amgylcheddol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth gyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- yr adeg fwyaf priodol o'r flwyddyn i godi gwrychoedd, yn dibynnu ar yr hinsawdd leol ac effaith rhew ar y plygwyr
- effaith eich gwaith ar gynefinoedd bywyd gwyllt fel y tymor nythu adar
- y rhesymau dros godi gwrychoedd
- â phwy i gysylltu yn ymwneud â phresenoldeb ceblau cyfleustodau
- yr arddulliau gwahanol o godi gwrychoedd ac amrywiadau rhanbarthol
- yr offer a'r dulliau gwahanol o fynd ati i godi gwrychoedd
- hyd a diamedr priodol coesau i'w defnyddio fel plygwyr
- y mathau a ffynonellau'r clymau a'r polion sydd ar gael
- rhywogaethau coedwrych a'u nodweddion
- y dulliau cywir o waredu deunyddiau dros ben a/neu wastraff
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Rhesymau dros godi gwrych i gynnwys:
- bioamrywiaeth
- prawf stoc
- cynnal y dirwedd