Cynhyrchu siarcol mewn coetir

URN: LANTw60
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu siarcol mewn coetir. Mae'n cynnwys adnabod rhywogaethau addas o goed i wneud siarcol, lleoli'r safle ar gyfer odyn, llosgi a pharatoi'r siarcol ar gyfer ei farchnad.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. sicrhau diogelwch y cyhoedd a gweithwyr eraill yng nghyffiniau'r ardal waith
  5. adnabod a pharatoi safle addas yn y coetir ar gyfer yr odyn
  6. adnabod y rhywogaethau coed i gael eu llosgi i greu siarcol
  7. gwirio bod y pren yn ddigon sych i gael ei losgi
  8. pennu faint o goed i gael eu llosgi, i fodloni'r cynnyrch gofynnol o siarcol
  9. paratoi pren yn briodol ar gyfer y math o losgi
  10. paratoi a chynnau'r odyn
  11. cynnal a rheoli'r llosgi er mwyn sicrhau ansawdd y siarcol sy'n cael ei gynhyrchu
  12. graddio'r siarcol sy'n cael ei gynhyrchu a'i roi mewn bagiau
  13. dileu'r holl wastraff a'r deunydd dros ben a'u gwaredu, fel y nodwyd
  14. gwneud y gwaith mewn ffordd sy'n lleihau niwed i'r amgylchedd
  15. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y marchnadoedd targed ar gyfer y siarcol
  5. y math o dir sydd orau i leoli odyn mewn coetir
  6. y mathau gwahanol o odyn siarcol a'r dulliau o'u llwytho a'u cynnau
  7. nodweddion rhywogaethau o goed ac effeithiau'r rhywogaethau ar ansawdd y siarcol sy'n cael ei gynhyrchu
  8. am ba hyd y dylai pren gael ei sychu cyn ei losgi a sut mae hyn yn amrywio rhwng rhywogaethau
  9. bod y ffordd y caiff pren ei bentyrru yn effeithio ar y broses sychu
  10. y gostyngiad mewn pwysau a chyfaint pren wedi ei bentyrru sy'n cael ei losgi ar gyfer siarcol
  11. effaith cynnwys gwlybaniaeth, rhywogaethau, gwerth pren a'r broses losgi
  12. y newidiadau sy'n digwydd trwy gydol y broses losgi
  13. y dulliau o reoli'r broses losgi
  14. arwyddocâd lliw'r mwg yn ystod cyfnodau gwahanol
  15. y defnyddiau eraill ar gyfer llwch/elfennau mân
  16. sut i storio odyn yn ystod cyfnodau hir o beidio cael ei ddefnyddio
  17. y dulliau cywir o waredu deunyddiau dros ben a/neu wastraff
  18. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw60

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

siarcol; odyn; llosgi; coetir