Cynnal systemau draenio agored
URN: LANTw6
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal systemau draenio agored yn unol â manyleb benodol.
Mae'r fanyleb hon yn cynnwys llwybr, proffil, dyfnder a gradd y draen ynghyd â'r goddefiannau derbyniol a thriniaeth deunydd wedi ei gloddio. Mae'r fanyleb hefyd yn cynnwys gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad sy'n ei ddefnyddio neu'r client.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen i chi gael hyfforddiant priodol, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cynnal systemau draenio agored yn unol â'r fanyleb benodol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cynnal diogelwch y peiriannau a'r offer ar y safle
- dilyn arfer da amgylcheddol a nodir gan eich sefydliad a'r diwydiant, a nodi a diogelu nodweddion amgylcheddol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli'r asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- sut i ddehongli cynlluniau a manylebau ar gyfer cynnal systemau draenio agored
- sut i glirio draeniau agored ac ailgloddio rhannau o ddraeniau agored sydd wedi dymchwel
- sut i gynnal draeniau agored mewn amrywiaeth o briddoedd
- sut i gloddio deunyddiau ymysg coed sydd yn sefyll
- y technegau y gellir eu defnyddio ar gyfer dad-gorsio
- sut i adnabod agweddau penodedig o'r safle y dylid eu gwarchod
- goblygiadau tir, gwneuthuriad a strwythur y pridd, tymor, tywydd a rhywogaethau planhigion
- goblygiadau cyfradd llif mewn systemau draenio agored
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer
Cwmpas/ystod
Manyleb yn cwmpasu:
- llwybr
- proffil
- dyfnder
- gradd
- cyfradd llif
- triniaeth deunydd wedi ei gloddio
- goddefiant y fanyleb
- mesuriad o'r gwaith a gyflawnwyd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw6
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwriaeth a choedwigaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
draeniau; cynnal; coetir; coeden; dad-gorsio; safle; pridd