Creu a chynnal a chadw systemau draenio agored

URN: LANTw6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth, Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i greu a chynnal a chadw systemau draenio agored yn ôl manyleb a roddwyd.

Bydd y fanyleb yn cynnwys llwybr, proffil, dyfnder a gradd y draen, ynghyd â’r goddefiannau derbyniol a thriniaeth y deunydd sy’n cael ei gloddio.

Gall systemau draenio gael eu marcio ymlaen llaw gan bobl eraill ond, mewn sawl achos, bydd gofyn i chi farcio’r draeniau eich hun. Bydd angen i chi archwilio am bresenoldeb gwasanaethau tanddaearol.

Hefyd, bydd angen i chi gyfrif am unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau ac arwyddion, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
  3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, gan wirio am bresenoldeb gwasanaethau tanddaearol, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  5. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
  6. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
  7. cynllunio gwaith i leihau difrod niweidiol a llygredd wasgaredig
  8. cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w wneud a chydnabod cyfyngiadau eich cymhwysedd eich hun
  9. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  10. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  11. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  12. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
  14. gwneud y gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
  15. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
  16. rhoi agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd ar waith, sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
  17. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  18. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â’r gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol

Creu a chynnal a chadw systemau draenio agored

  1. defnyddio dulliau priodol i greu a chynnal a chadw systemau draenio agored yn ôl y fanyleb a roddwyd
  2. defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol
  3. delio â deunydd wedi’i gloddio yn unol â chyfarwyddiadau a’r ddeddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg penodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
  3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  4. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle
  5. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  6. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
  7. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n cymryd rhan yn y gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu ddylai gael eu defnyddio
  8. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  9. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
  10. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
  11. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos, sut gellir lleihau’r effaith hon a sut i adnabod agweddau penodedig ar y safle y dylid eu diogelu
  12. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
  13. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
  14. y problemau a all godi wrth greu a chynnal a chadw systemau draenio agored, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  15. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  16. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Creu systemau draenio agored

  1. sut i ddehongli cynlluniau a manylebau ar gyfer creu systemau draenio agored
  2. sut i greu draeniau agored mewn amrywiol briddoedd, gan gynnwys priddoedd organig a mwynol
  3. sut i ymestyn system ddraenio agored
  4. sut a ble i derfynu draeniau
  5. goblygiadau tirwedd, ansawdd a strwythur pridd, y tymor, y tywydd a rhywogaethau planhigion i’r gwaith
  6. goblygiadau cyfradd llif wrth greu system ddraenio agored
  7. yr ongl a argymhellir ar gyfer draen (3.05%) yn unol â Safon Coedwigaeth y DU
  8. y dull gofynnol o waredu deunydd wedi’i gloddio

Cynnal a chadw systemau draenio agored

  1. sut i ddehongli cynlluniau a manylebau ar gyfer cynnal a chadw systemau draenio agored
  2. sut i glirio draeniau agored ac ailgloddio rhannau o ddraeniau agored sydd wedi dymchwel
  3. sut i gynnal a chadw draeniau agored mewn amrywiaeth o briddoedd
  4. sut i gloddio deunydd ymhlith coed sy’n sefyll
  5. y technegau all gael eu defnyddio ar gyfer tynnu allan o gors
  6. goblygiadau tirwedd, ansawdd a strwythur pridd, y tymor, y tywydd a rhywogaethau planhigion i’r gwaith
  7. goblygiadau cyfradd llif wrth gynnal a chadw systemau draenio agored
  8. y dull gofynnol o waredu deunydd wedi’i gloddio

Cwmpas/ystod

Safle:

  • tir agored
  • coedwig wedi’i chwympo
  • safleoedd coetir

Manyleb yn cwmpasu:

  • llwybr
  • proffil
  • dyfnder
  • gradd
  • cyfradd llif
  • ongl y draen
  • triniaeth deunydd wedi’i gloddio
  • goddefiant y fanyleb
  • gofynion amgylcheddol deddfwriaethol a sefydliadol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • canllawiau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig, UKFS)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw5

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwriaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

draenio; draen