Cynhyrchu cynnyrch tanwydd pren mewn coetir neu goedwig
URN: LANTw59
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu cynnyrch tanwydd pren mewn coetir neu goedwig ar gyfer y farchnad ddomestig. Mae'n cynnwys adnabod rhywogaethau tanwydd pren, paratoi a phrosesu pren a pharatoi cynnyrch tanwydd pren, gan ystyried y cynnwys gwlybaniaeth, dwysedd y pren, a gofynion y farchnad.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu'r dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- adnabod y rhywogaethau tanwydd coed addas o'r coetir neu'r goedwig i fodloni'r manylebau cytûn ar gyfer y cynnyrch tanwydd pren
- dewis yr offer a'r cyfarpar priodol i greu'r cynnyrch tanwydd pren
- torri pren i fodloni'r manylebau ar gyfer y cynnyrch tanwydd pren
- paratoi pren a'i brosesu i gynhyrchu'r cynnyrch tanwydd pren
- pentyrru cynnyrch tanwydd pren yn ddiogel ar gyfer tymheru
- storio cynnyrch tanwydd pren yn unol â'r dull cynhyrchu
- sicrhau bod cynnyrch tanwydd pren yn bodloni gofynion y farchnad
- gwneud gwaith mewn ffordd sy'n lleihau niwed i'r amgylchedd
- dileu pob gwastraff a deunydd dros ben a'u gwaredu fel y nodir
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y marchnadoedd tanwydd pren gwahanol a'r ystod o gynnyrch
- nodweddion llosgi a phrosesu rhywogaethau gwahanol o goed coetir neu goedwig
- y dulliau storio sy'n briodol ar gyfer cynnyrch tanwydd pren gwahanol
- yr offer sy'n ofynnol a'r dulliau cynhyrchu ar gyfer cynnyrch tanwydd pren gwahanol
- arwyddocâd cynnwys gwlybaniaeth ar ansawdd y cynnyrch tanwydd pren
- sut y gall tymheru effeithio ar gynnwys gwlybaniaeth rhywogaethau gwahanol a chynhyrchu cynnyrch tanwydd pren
- sut y gall storio effeithio ar y cynnwys gwlybaniaeth
- y broses o losgi pren
- yr effaith y bydd y deunydd crai yn ei gael ar faint gronynnau a chynnwys llwch
- perthnasedd tymheru pren a'r lefel sy'n ofynnol ar gyfer cynnyrch tanwydd pren gwahanol
- y safonau ansawdd sy'n berthnasol i'r cynnyrch tanwydd pren
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- y dulliau cywir ar gyfer gwaredu deunydd dros ben a/neu wastraff
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cynhyrchu'r cynnyrch tanwydd pren canlynol:
- priciau tân
- boncyffion hollt
- asglodion pren
- ffagodau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw59
Galwedigaethau Perthnasol
Coedlannu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
tanwydd pren; asglodion; pren; coedwig; priciau tân; boncyffion