Dylunio cynnyrch neu gydrannau pren gwyrdd
URN: LANTw57
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys dylunio cynnyrch neu gydran pren gwyrdd.
Bydd dylunio cynnyrch neu rannau pren gwyrdd yn cynnwys:
- dilyn manyleb cynnyrch penodedig
- cynllunio a bodloni amserlenni ymchwil
- dewis offer, cyfarpar a deunyddiau addas
- addasu dulliau a thechnegau
- gwneud prototeipiau
- nodi manyleb dyluniad terfynol
- datrys unrhyw anawsterau
- cofnodi gwybodaeth ar gyfer prisio a rheoli stoc
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu'r dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cael a chadarnhau manyleb gywir, glir a chynhwysfawr gan eich cleient ar gyfer y cynnyrch neu'r cydrannau pren gwyrdd
- cynllunio a gweithredu amserlen ymchwil effeithiol i fodloni'r dyddiadau cau gofynnol
- cynhyrchu dyluniad i fodloni manyleb y cleient ar gyfer cynnyrch neu gydrannau'r pren gwyrdd
- canfod ymarferoldeb ac argaeledd y deunyddiau, yr offer a'r cyfarpar sy'n addas ac yn angenrheidiol i fodloni manyleb derfynol y cleient
- gwneud prototeip yn ddigonol i gadarnhau manyleb derfynol y cleient a phrofi'r dechneg ar gyfer y deunyddiau a'r gallu technegol gofynnol
- sicrhau bod manyleb derfynol y cleient a'r dechneg yn bosibl ei chyflawni, yn ddarbodus ac yn addas at y diben
- cofnodi gwybodaeth glir, ddigonol ar gyfer prisio cywir, rheoli stoc a dyblygu'r deunyddiau, y dyluniadau a'r technegau a ddefnyddiwyd
- nodi ble dylid addasu'r technegau dylunio er mwyn bodloni manyleb cynnyrch neu gydran pren gwyrdd y cleient yn fwy effeithiol
- nodi meini prawf gwerthuso sy'n briodol i fanyleb y cleient ac i'ch busnes
- cymhwyso meini prawf gwerthuso i gynnyrch neu gydrannau'r pren gwyrdd
- barnu cynnyrch neu gydrannau'r pren gwyrdd mewn ffordd sydd yn gyson â'r meini prawf gwerthuso
- os nad yw cynnyrch neu gydrannau'r pren gwyrdd yn bodloni'r meini prawf, rhoi gwybodaeth ddigonol a dibynadwy am hyn a chynnig addasiadau i fodloni'r meini prawf gwerthuso
- os nad yw cynnyrch neu gydrannau'r pren gwyrdd yn bodloni'r meini prawf, cyfleu hyn yn effeithiol i'r bobl berthnasol, lle y bo'n briodol
- cofnodi gwybodaeth glir a dibynadwy
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- sut i ddehongli manylebau cleientiaid a gyflwynir ar ffurf ysgrifenedig, llafar, darluniadol a ffisegol
- nodweddion gweledol a ffisegol deunyddiau
- y ffynonellau gwybodaeth am arddulliau, technegau, cefndir hanesyddol a chyd-destunau
- cyfyngiadau posibl deunyddiau, offer, technoleg a thechnegau
- y technegau dylunio gwahanol
- sut i gymhwyso egwyddorion esthetig ac ergonomig
- sut i asesu hyfywedd economaidd ac ymarferol technegau
- sut i adnabod a dewis meini prawf gwerthuso
- sut i gymhwyso technegau gwerthuso
- y dangosyddion sy'n awgrymu bod angen cynnig addasiad
- y ffordd o adnabod a datrys problemau gyda gofynion manyleb y cleient
- y meini prawf ar gyfer penderfynu a ddylid addasu technegau dylunio
- sut i gyfleu pob agwedd ar eich dyluniad arfaethedig yn effeithiol i'ch cleient
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwwriaeth a chodau ymarfer amgyolcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw57
Galwedigaethau Perthnasol
Coedlannu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
pren gwyrdd; cynnyrch; manyleb; dyluniad