Prosesu deunydd coedlannu a chynnyrch pren gwyrdd
URN: LANTw56
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Coedyddiaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu deunydd coedlannu a chynnyrch pren gwyrdd. Mae'n cynnwys tarddu, asesu ansawdd pren a phrosesu'r deunyddiau craidd i fodloni'r manylebau.
Mae'n cynnwys y broses o ddewis pren crwn, paratoi'r pren gan ddefnyddio'r dulliau priodol a chreu cynnyrch pren crwn, neu rannau o gynnyrch, unwaith y mae'r pren crwn wedi cael ei droi'n gyflwr y gellir gweithio ag ef.
Mae'n cynnwys:
- dilyn manylebau
- nodi ansawdd y pren sydd ei angen ar gyfer y prosiect
- lleoli a chael pren crwn ar gyfer y prosiect
- adeiladu'r offer a'r cyfarpar priodol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cytuno ar y fanyleb ar gyfer cynnyrch pren gwyrdd
- cynllunio amserlen waith i gynyddu'r defnydd o ddeunydd coedlannu a lleihau gwastraff
- adnabod, dewis a pharatoi pren ar gyfer cynnyrch pren gwyrdd
- asesu ansawdd pren ar gyfer ei addasrwydd ar gyfer y cynnyrch pren gwyrdd
- prosesu deunyddiau coedlannu yn gynnyrch pren gwyrdd, gan ddefnyddio prosesau priodol
- adeiladu cynnyrch pren gwyrdd i fodloni'r fanyleb
- ffurfio a chyflwyno cynnyrch pren gwyrdd er mwyn iddynt fodloni'r fanyleb
- gwirio bod y cynnyrch pren gwyrdd yn bodloni eu manylebau
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- sut i ddehongli'r manylebau er mwyn nodi a phrisio pob elfen ar gyfer gwaith
- elfennau, prif ddefnydd ar gyfer a'r cynnyrch y gellir ei wneud o rywogaethau sylfaenol coedlannau
- sut i adnabod pa bren sydd fwyaf priodol i'w ddefnyddio a'r prif resymau dros y dewis hwnnw
- tymoroldeb deunyddiau coedlan a sut y gall hyn effeithio ar argaeledd a gwydnwch cynnyrch
- y dulliau a ddefnyddir i ehangu bywyd ymarferol deunyddiau coedlannau tymhorol
- sut i asesu ansawdd deunydd coedlannau
- yr offer llaw priodol a ddefnyddir i ffurfio'r pren
- y prosesau a'r offer gwahanol a ddefnyddir i ffurfio'r pren
- nodweddion hanfodol cynnyrch coedlannau, gan ystyried y manylebau
- nodweddion a defnydd gwahanol rywogaethau gwahanol o goed coetir
- sut i asesu pren am addasrwydd ar gyfer cynnyrch pren gwyrdd
- sut i gyfateb nodweddion y deunyddiau i'r cynnyrch
- sut i weithio mathau gwahanol o goed wedi hollti
- sut i ffurfio a gorffen cynnyrch sylfaenol neu rannau o gynnyrch
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch presennol
Cwmpas/ystod
Asesu pren ar gyfer y canlynol:
- cyfradd twf
- strwythur a pharhad graen
- presenoldeb clymau
- ymosodiad ffwng
- ymosodiad pryfed
- graddau tymheru
- oed
- pydredd, holltau a choesau
Prosesau priodol i gynnwys:
- hollti, ymlynu, rhannu
- llifio
- bwyellu, torri
- torri â chyllell dynnu
- plicio.
Pren o'r canlynol:
- collen
- derw
- onnen
- helygen
- sycamorwydden
- bedwen
- ffawydden
- castanwydden
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Elfennau yn cynnwys:
- amcangyfrif faint o ddeunyddiau sydd eu hangen
- cyfradd yr ymgymeriad
- osgoi gôr/tan-stocio
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gall yr amserlen waith fod ar lafar neu’n ysgrifenedig
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw56
Galwedigaethau Perthnasol
Coedlannu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
coedlan; deunyddiau; pren gwyrdd; cynnyrch; coed; pren