Adeiladu a chynnal offer a dyfeisiadau a ddefnyddir i brosesucynnyrch coedlan a phren gwyrdd
URN: LANTw55
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adeiladu a chynnal offer a dyfeisiadau a ddefnyddir i brosesu cynnyrch coedlan a phren gwyrdd. Mae'n cynnwys adeiladu ac addasu'r offer a'r dyfeisiadau.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael yr hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cael neu ddyfeisio manyleb glir a chywir i adeiladu offer a dyfeisiadau a ddefnyddir i brosesu cynnyrch coedlan a phren gwyrdd
- adnabod a tharddu deunyddiau addas i adeiladu'r offer a'r dyfeisiadau yn unol â'r fanyleb
- creu/neu gael y cydrannau gofynnol i adeiladu'r offer a'r dyfeisiadau yn unol â'r fanyleb
- dewis yr offer priodol sy'n ofynnol i adeiladu offer a dyfeisiadau
- adeiladu'r offer a'r dyfeisiadau yn unol â'r fanyleb
- sicrhau bod offer a dyfeisiadau yn ddiogel ac yn addas at y diben
- addasu offer a dyfeisiadau fel bo angen
- adnabod unrhyw namau neu welliannau y gellir eu gwneud i'r offer a'r dyfeisiadau a thrwsio'r rhain
- cadw offer a dyfeisiadau a ddefnyddir i brosesu cynnyrch coedlan a phren gwyrdd mewn cyflwr gweithio da a diogel
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- pwysigrwydd defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) cywir
- yr ystod o offêr a dyfeisiadau a ddefnyddir i brosesu cynnyrch coedlan a phren gwyrdd a'u defnydd gwahanol
- swyddogaeth pob rhan o'r offeryn neu'r ddyfais
- y ffynonellau gwybodaeth gwahanol i gael manylebau clir a chynhwysfawr ar gyfer adeiladu offer a dyfeisiadau a ddefnyddir i brosesu cynnyrch coedlan a phren gwyrdd
- y dyluniadau gwahanol a'u teilyngdod perthynol
- sut i adnabod deunyddiau addas i'w defnyddio i adeiladu offer a dyfeisiadau yn unol â'r fanyleb
- sut i greu/neu gael y cydrannau gofynnol i adeiladu offer a dyfeisiadau yn unol â'r fanyleb
- sut i adeiladu ac addasu'r offer a'r dyfeisiadau yn unol â'r fanyleb
- yr addasiadau y gellir eu gwneud i offer a dyfeisiadau i wella eu perfformiad
- prif achosion dirywiad offer a dyfeisiadau a ddefnyddir i brosesu cynnyrch coedlan a phren gwyrdd a'r mesurau y gellir eu cymryd i leddfu'r achosion hyn
- y dulliau o gynnal yr ystod o offer a dyfeisiadau i sicrhau eu bod yn dal yn effeithiol dros amser
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw55
Galwedigaethau Perthnasol
Coedlannu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
offer; dyfeisiadau; pren gwyrdd; coedlan; crefft