Cynnal a chadw offer llaw ag ymyl a hogi ymylon torri
URN: LANTw54
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hogi a chynnal a chadw offer llaw ag ymyl, yn cynnwys eu hatgyweirio a'u storio. Mae hyn yn cynnwys:
- adnabod ac ymdrin â diffygion mewn offer
- adnewyddu dolenni a choesau offer
- diogelu offer i atal cyrydu, niwed ac anaf personol
- hogi offer ag ymyl
- storio offer yn gywir
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dull gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol sy'n ofynnol ar gyfer hogi a chynnal a chadw offer ag ymyl, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cynnal offer llaw ag ymyl trwy adnabod a gwneud mân ddiffygion yn ddiogel ar ddolen neu goes offer llaw
- adnabod unrhyw ddiffygion mawr mewn offer llaw ag ymyl
- atgyweirio a sicrhau bod yr offeryn llaw ag ymyl mewn cyflwr gweithio diogel
- adnabod ymylon diffygiol a heb fin a defnyddio'r offer priodol i hogi ac adfer yr ymyl torri cywir ar offer
- storio offer yn gywir i gynnal eu cyflwr a sicrhau eu bod yn ddiogel i'w defnyddio
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- goblygiadau iechyd a diogelwch diffygion mewn offer llaw ag ymyl, offer ag ymyl a choesau
- y dulliau a'r dyfeisiadau gwahanol ar gyfer hogi offer llaw ag ymyl
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- proffiliau gwahanol offer ag ymyl ac sydd yn briodol ar gyfer dibenion gwahanol
- sut i adnabod nodweddion ongl ac ymyl offer ag ymyl unigol sy'n ofynnol i gyflawni eu swyddogaeth benodol
- pwysigrwydd "hydwythedd" mewn offeryn ag ymyl
- y defnydd priodol o ystod o gerrig hogi a'r gwahaniaeth rhwng cerrig olew a gwlyb
- y defnydd priodol o falwyr ongl ac olwynion malu
- sut i brofi min offer yn ddiogel a phan fydd angen hogi offer
- y gwaith cynnal a chadw ac amddiffyn sy'n ofynnol ar gyfer offer ag ymyl miniog
- y dulliau gwahanol o osod dolen neu goes newydd
- sut i ddewis y deunydd priodol ar gyfer dolenni offer
- sut i storio offer yn ofalus i gynnal eu cyflwr
- sut i labeli, storio a hysbysu ynghylch offer peryglus ac wedi eu niweidio
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Atgyweirio offer llaw ag ymyl: amnewid y ddolen, ail-hogi'r ongl, llifanu'r ymyl torri
Diffygion mawr: angen amnewid y ddolen neu'r goes
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw54
Galwedigaethau Perthnasol
Ceidwad Parc, Coedlannu, Garddwriaeth a choedwigaeth, Rhodiwr, Gweithiwr Ystâd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
offer; dolen; ongl; miniogi; ymyl