Torri, prosesu a thynnu coedlannau allan
URN: LANTw53
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thorri, prosesu ac yna tynnu coedlannau allan, gan ddefnyddio'r dull mwyaf priodol o gyflawni amcanion penodol. Gallai'r amcanion gynnwys:
- rheoli coedlan
- adfer coedlan
- cynhyrchu cynnyrch penodedig coedlan
- cadwraeth/rheolaeth cynefin
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, a meddu ar ardystiad cyfredol, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- sicrhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- nodi'r rhywogaethau, y cymysgedd ac oed y goedlan yn fras
- creu amserlen waith
- torri bonion coedlan gan ddefnyddio arfer da cyfredol er mwyn hybu aildyfiant iach
- prosesu deunydd y goedlan, gan leihau gwastraff
- rheoli coed sydd yn sefyll
- rheoli deunydd diangen neu na ellir eu defnyddio gan ddefnyddio arfer da presennol
- didoli/graddio a phentyrru coedlannau wedi eu torri ar gyfer defnydd amrywiol mewn ffordd effeithlon
- tynnu coedlannau sy'n briodol i'r safle a'r deunyddiau allan
- gadael bonion coedlan mewn cyflwr priodol i hybu aildyfiant iach
- ailgyflenwi'r isdyfiant gan ddefnyddio dulliau gwahanol
- cynnal coedlannau ar y dwysedd priodol
- gwaredu'r holl wastraff a'r deunydd dros ben a'u gwaredu fel y nodir
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- sut i adnabod rhywogaethau sy'n cael eu coedlannu'n gyffredin, yn yr haf a'r gaeaf
- pwysigrwydd amserlennu a chynllunio amserlen waith ar gyfer torri, prosesu a thynnu coedlannau allan
- y rhesymau dros goedlannu
- arfer da yn ymwneud â choedlannu bôn
- y ffactorau sy'n effeithio ar adfywio coedlan
- sut i amddiffyn bonion rhag niwed trwy bori anifeiliaid
- pwysigrwydd dwysedd a dulliau ailgyflenwi
- dulliau gwahanol o dynnu coedlannau allan a'u haddasrwydd i gymwysiadau gwahanol
- sut i gynyddu'r defnydd o goedlannau wedi eu torri a darparu cynnyrch y gellir eu defnyddio
- rheoli coed sydd yn sefyll
- buddion cadarnhaol coedlannu ar gyfer bioamrywiaeth
- y dulliau cywir o waredu deunydd dros ben a/neu wastraff
- y Gyfarwyddeb Genedlaethol Cynefinoedd sy'n llywodraethu gweithredoedd coetir
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw53
Galwedigaethau Perthnasol
Ceidwad Parc, Coedlannu, Garddwriaeth a choedwigaeth, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
coedlan; tynnu allan; cynnyrch; torri; prosesu; coed