Cynnal iechyd a chynhyrchiant coedlan

URN: LANTw52
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio'r dulliau o gynnal iechyd a chynhyrchiant coedlan.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • dulliau ar gyfer cynnal a gwella dwysedd coedlan
  • adnabod ffactorau sy'n effeithio ar dwf iach planhigion.

Wrth weithio gyda chemegau a pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. sicrhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  6. nodi meysydd lle gellir gwella dwysedd stoc
  7. cynyddu dwysedd coedlan trwy blannu gyda rhywogaethau priodol o goed o'r maint cywir
  8. cynyddu dwysedd coedlan trwy "haenu"
  9. gwella cyflwr y safle i annog adfywio naturiol a chynyddu cynhyrchiant
  10. adnabod niwed a achosir gan blâu asgwrn cefn
  11. rheoli niwed gan blâu asgwrn cefn
  12. rheoli llystyfiant nas dymunir
  13. cynnal dull o reoli chwyn llystyfiant
  14. monitro a chynnal iechyd coedlan
  15. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth bresennol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  6. effeithiau cyflyrau tyfu ar iechyd coedlan
  7. dwysedd uchaf coedlan sy'n briodol i rywogaethau coed, cylchdro a lleoliad
  8. effaith dwysedd coedlan ar gynhyrchiant
  9. y rhesymau dros ddwysedd gwael coedlan
  10. yr ystod a'r dulliau priodol o wella dwysedd coedlan, eu buddion a'u defnydd priodol
  11. y prif anifeiliaid asgwrn cefn mewn coetir sy'n achosi niwed i goedlan a bonion coedlan
  12. dulliau o reoli anifeiliaid asgwrn cefn, eu buddion a'u defnydd priodol
  13. y prif rywogaethau o blanhigion sy'n achosi niwed i goedlannau a bonion coedlannau
  14. y dulliau o reoli llystyfiant nas dymunir, eu buddion a'u defnydd priodol
  15. yr ystod o amodau sy'n effeithio ar y dewis o ddulliau rheoli priodol, yn cynnwys rhai economaidd, dynodiadau safle, amgylcheddol
  16. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw52

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Coedlannu, Garddwriaeth a choedwigaeth, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystadau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

coedlan; iechyd; cynhyrchiant; cynnyrch; dwysedd