Cynllunio a gwerthuso ar gyfer rheoli coedlannu
URN: LANTw51
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a gwerthuso ar gyfer rheoli coedlannu a monitro hyfywedd y broses yn erbyn amcanion penodol.
Gallai'r amcanion hyn gynnwys: hyfywedd ariannol, marchnadoedd posibl ar gyfer cynnyrch, lleoliad, bioamrywiaeth, rheoli cynefinoedd, cynaliadwyedd.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- trefnu caniatâd a dogfennau perthnasol gyda pherchennog y tir
- adnabod y cymysgedd o rywogaethau ac oed y goedlan yn fras
- adnabod nodweddion, cyfyngiadau a pharamedrau'r safle
- adnabod marchnadoedd a/neu ddefnydd ar gyfer deunyddiau wedi eu coedlannu
- adnabod a gwerthuso nodweddion y goedlan
- pennu a chytuno ar amcanion y safle
- adnabod a chofnodi'r cynnyrch cynaliadwy i fodloni'r amcanion
- gwerthuso hyfywedd i fodloni'r amcanion
- dewis telerau ac amodau priodol ar gyfer trefniadau rheoli coedlannau
- ffurfio cynlluniau a rhagolygon cynhyrchu yn erbyn data sydd ar gael
- cynllunio a gwerthuso amserlen waith effeithiol yn erbyn amcanion cytûn
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i adnabod rhywogaethau sy'n cael eu coedlannu'n gyffredin yn yr haf a'r gaeaf
- arfer da yn ymwneud â choedlannu bonion
- ffactorau sy'n effeithio ar adfywio coedlannu
- dulliau gwahanol ar gyfer mesur cyfaint pren/coedlan pan fydd y cnwd yn sefyll ac wedi ei dorri i lawr
- dulliau ar gyfer cyflawni cynnyrch cynaliadwy
- effeithiau cynnal coed canopi safonol a'u heffaith ar y goedlan
- yr effeithiau ar gynnyrch cymysgedd o rywogaethau
- amddiffyn coedlan rhag niwed gan anifeiliaid
- dyfeisiadau all gynorthwyo/cyflymu cynhyrchu cynnyrch coedlan
- y meini prawf ar gyfer trwydded torri coed i lawr
- pwysigrwydd rheoli coedlannau ar gyfer bioamrywiaeth
- cyfarwyddebau cynefin sy'n llywodraethu gweithrediadau coetir
- sut i ffurfio cynlluniau cynhyrchu ac amserlenni gwaith
- pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso amserlenni gwaith effeithiol yn erbyn amcanion cytûn
- effeithiau posibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau'r rhain
- dulliau gwaredu deunydd dros ben a/neu wastraff
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch presennol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw51
Galwedigaethau Perthnasol
Ceidwad Parc, Coedlannu, Garddwriaeth a choedwigaeth, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
coedlan; gwerthuso; rheolaeth