Rheoli gweithrediadau cynaeafu a thynnu coed allan
URN: LANTw50
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gweithrediadau cynaeafu a thynnu coed allan.
Mae'r safon hon yn gofyn am wybodaeth am ragweld cynhyrchu cynnyrch coedwigaeth a choetir.
Bydd angen i chi gynllunio'r cynaeafu a'i fonitro er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni amcanion y cynllun.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- sicrhau bod offer amddiffynnol personol (PPE) priodol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith
- pennu'r fanyleb waith ar gyfer cynaeafu a thynnu coed allan, yn unol ag amcanion rheoli'r safle
- pennu gofynion monitro'r gweithrediadau cynaeafu a thynnu coed allan
- nodi'r adnoddau sy'n ofynnol i fodloni'r fanyleb waith
- nodi clwstwr ar gyfer cynaeafu a thynnu coed allan yn cynnwys y system dynnu allan
- cadarnhau bod y gwaith cynaeafu a thynnu coed allan yn cydymffurfio â'r amcanion a nodwyd, a gwneud unrhyw waith cywiro os oes angen
- rheoli a monitro'r prosiect cynaeafu a thynnu coed allan yn erbyn yr amcanion, o ran cyfnod amser, ansawdd, cost, canlyniadau a gyflawnwyd, yr amcanion a gynlluniwyd a'r safon a gyflawnwyd
- rheoli unrhyw wyriadau o'r fanyleb waith
- sicrhau bod niwed amgylcheddol mor isel â phosibl
- sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud i gadw cynaliadwyedd y safle ac ansawdd y cynnyrch
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i nod gofynion clystyrau, systemau tynnu allan a theneuo
- egwyddorion coetir wedi ei adfywio'n naturiol
- plâu a chlefydau a sut y gallant effeithio ar iechyd coed
- gofynion gweithredol y fanyleb a sut i gaffael yr adnoddau angenrheidiol i weithredu'r cynllun i gyflawni amcanion rheoli
- sut i reoli a monitro prosiectau i fodloni amcanion y fanyleb waith a rheoli unrhyw wyriadau
- effaith bosibl y gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Clwstwr - Mae clwstwr yn gymuned o goed ar bwys ei gilydd sydd â set gyffredin o nodweddion.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw50
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cynaeafu; tynnu allan; coeden; rheoli