Creu system ddraenio agored
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu system ddraenio agored i fanyleb benodol.
Bydd y fanyleb yn cynnwys llwybr, dyfnder a gradd y draen ynghyd â'r goddefiant derbyniol a thriniaeth deunydd sy'n cael ei gloddio.
Mae'r fanyleb hefyd yn cynnwys gofynion deddfwriaeth a'r sefydliad sy'n cyflogi neu sefydliad y cleient.
Gall systemau draenio fod wedi eu nodi'n flaenorol gan eraill ond mewn llawer o achosion bydd angen i chi nodi'r draeniau eich hun.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen i chi gael hyfforddiant priodol, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol priodol (PPE) ar gyfer y gwaith
- creu system ddraenio agored sy'n bodloni'r fanyleb a roddwyd
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael
- dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
- dilyn arfer da amgylcheddol a nodir gan eich sefydliad a'r diwydiant, a nodi a diogelu nodweddion amgylcheddol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch offer a cherbydau ar y safle
- sut i ddehongli cynlluniau a manylebau ar gyfer system ddraenio agored
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- sut i greu draeniau agored mewn priddoedd amrywiol, yn cynnwys priddoedd organig a mwynau
- sut i ehangu system ddraenio agored
- sut i adnabod agweddau penodedig o'r safle, y dylid eu diogelu
- goblygiadau tir, gwead a strwythur pridd, y tymor, y tywydd a rhywogaethau planhigion
- goblygiadau cyfradd llif mewn systemau draenio agored
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer
Cwmpas/ystod
Manyleb yn cynnwys:
- llwybr
- proffil
- dyfnder
- gradd
- cyfradd llif
- trin deunydd wedi ei gloddio
- goddefiad y fanyleb
- gofynion amgylcheddol deddfwriaethol a sefydliadol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Safle:
- tir agored
- coedwig wedi ei thorri
- safleoedd coetir