Tynnu coed a chynnyrch coed allan gan ddefnyddio ceffyl
URN: LANTw49
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu coed a chynnyrch coed allan gan ddefnyddio ceffyl.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol ac yn meddu ar ardystiad presennol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r perygl sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- gosod, llwytho a dadlwytho offer yn effeithiol
- sicrhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cynnal diogeledd a diogelwch y ceffyl(au) a'r offer pan fyddant ar y safle
- dewis, paratoi a chadw llwybrau mynediad ac ymadael mewn cyflwr defnyddiol
- tynnu coed a chynnyrch coed allan gan ddefnyddio ceffyl yn effeithiol ac yn effeithlon gan ddefnyddio llwybrau tynnu allan cytûn
- dadlwytho, graddio a gwahanu coed a chynnyrch coed, yn unol â'r fanyleb
- casglu coed a chynnyrch coed yn yr ardal gytûn er mwyn hwyluso codi i fyny a'u hanfon ymlaen
- dilyn arfer da amgylcheddol a osodwyd gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- gofynion cyfreithiol gwirio offer
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- yr angen i wirio lles y ceffyl(au) yn rheolaidd
- sut i ddehongli manylebau cynnyrch a didoli cynnyrch yn gategorïau wrth lwytho
- galluoedd a chyfyngiadau'r ceffyl(au) a ddefnyddir, yn cynnwys cyfyngiadau llethr ac uchafswm llwyth gwaith diogel
- sut i ddewis llwybrau addas ar gyfer tynnu coed a chynnyrch coed allan gan ddefnyddio ceffyl
- goblygiadau tirwedd, cyflwr y ddaear, y tymor, y tywydd, llwyth a math/cyflwr y pren ar gynllunio llwybrau tynnu allan gan ddefnyddio ceffyl
- effaith llwythau anghytbwys ar dynnu allan
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd y ceffyl a'r offer pan fyddant ar y safle
- y dulliau o raddio, pentyrru ac ymdrin â chynnyrch
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw49
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; offer; coedwig; pren; tynnu allan; coed