Ymdrin, cludo a pharatoi ceffyl ar gyfer gwaith pren
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio trin, cludo a pharatoi ceffylau ar gyfer gwaith pren, yn cynnwys tynnu pren allan o goedwig neu goetir.
Gellir defnyddio naill ai ceffyl unigol neu bâr o geffylau i dynnu pren allan dros ystod o dirweddau.
Gyda cheffyl unigol byddwch yn defnyddio cadwyni olrhain ac offer paladrog ar gyfer anfon pren ymlaen a'i lithro. Gyda phâr o geffylau byddwch yn defnyddio olrheinwyr gyda choeden ddwbl, siafftiau a pholion i dynnu pren allan.
Mae'n bwysig iawn sicrhau gofal a lles ceffylau trwy gydol y gweithrediad, yn cynnwys cynnal ac adrodd ar iechyd ceffylau a gofal carnau.
Nid oes angen defnyddio ceffyl ar ffordd gyhoeddus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cynnal diogelwch y ceffyl(au) a'r offer
- cynnal gwiriadau a gweithdrefnau cynnal a chadw ar yr offer fel mater o drefn, yn dilyn argymhellion y cynhyrchydd
- llwytho'r ceffyl(au) i drafnidiaeth, gofalu am y ceffyl(au) wrth iddynt gael eu cludo a dadlwytho'r ceffyl(au) o'r drafnidiaeth
- paratoi'r ceffyl(au) ar gyfer gwaith pren gan roi sylw dyledus i les y ceffyl
- dewis, gwirio, paratoi a gosod harnais addas ar gyfer y gwaith pren sy'n cael ei wneud
- ymdrin â'r ceffyl(au) i gadw rheolaeth a llesiant trwy gydol y gweithrediadau
- cynnal eich diogelwch eich hun ac eraill a lles y ceffyl yr holl amser, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- cynlluniau a gweithdrefnau brys ar gyfer y safle
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn wrth drin, cludo a pharatoi'r ceffyl(au)
- goblygiadau tirwedd, amodau'r ddaear, y tymor, y tywydd a'r math o bren ar ymdrin, cludo a pharatoi'r ceffyl(au)
- yr angen i gynnal gwiriadau a chynnal a chadw offer
- y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chludo a pharatoi ceffylau ar gyfer gwaith tynnu allan
- sut i ddewis, gwirio, paratoi a gosod mathau amrywiol o harneisiau ceffylau
- manteision ac anfanteision y mathau gwahanol o harnais ceffylau
- sut i ymdrin â cheffylau yn ofalus o ran eu lles
- sut i ddarparu ar gyfer a chynnal, lles ceffylau yn cynnwys darparu gorffwys, bwyd a dŵr
- galluoedd y ceffyl(au) a ddefnyddir, mewn perthynas â ffitrwydd, natur, profiad, maint, pwysau a'r math o offer a ddefnyddir
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Harnais – Sgandinafaidd, olrhain, aredig, cert