Nodi cyfleoedd a gweithgareddau coedwig cymdeithasol a chymunedol

URN: LANTw47
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i nodi cyfleoedd a gweithgareddau coedwig cymdeithasol a chymunedol.

Mae coedwigaeth gymdeithasol yn cynnwys nodi cyfleoedd i ddefnyddio’r goedwig, neu’r coetir, er buddion cymdeithasol i bobl leol a’r cyhoedd yn ehangach, ac annog y gymuned i gymryd rhan. Bydd gan ymarferwyr coedwigaeth gymdeithasol ddealltwriaeth o anghenion coedwigoedd a choetiroedd a sut i’w rheoli, ynghyd â dealltwriaeth dda o sut i reoli anghenion pobl.

Mae coedwigaeth gymunedol yn cynnwys pob agwedd ar berchnogaeth, rheolaeth ac ymwneud gan y cyhoedd, er enghraifft bod y gymuned yn rhan o reoli, prydlesu neu brynu coedwig neu goetir, a’r gweithgareddau a all ddigwydd yno, fel mynediad, hamdden, twristiaeth neu gyflenwi cynhyrchion coetir.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi’r risgiau pan fydd ymglymiad gan y cyhoedd yn y goedwig neu’r coetir, a’r goblygiadau i iechyd a diogelwch
  2. nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau sy’n berthnasol i’r goedwig neu’r coetir
  3. nodi mynediad statudol, ffurfiol ac anffurfiol i’r cyhoedd i ardal y goedwig neu’r coetir
  4. nodi dyheadau cymunedol ar gyfer y goedwig neu’r coetir
  5. nodi pa lefel o ymgynghori â phreswylwyr lleol, y gymuned neu’r cyhoedd yn ehangach y mae ei hangen a dulliau ymgysylltu addas
  6. ymgynghori â thirberchnogion a phartïon â budd er mwyn nodi cyfleoedd a gweithgareddau coedwig neu goetir cymdeithasol a chymunedol
  7. dadansoddi’r holl wybodaeth sydd ar gael i benderfynu ar gyfleoedd a gweithgareddau posibl
  8. archwilio ymarferoldeb a hyfywedd cyfleoedd a gweithgareddau posibl
  9. ceisio a gwerthuso cyngor allanol arbenigol, lle bo angen
  10. gwerthuso’r ystod o gyfleoedd a gweithgareddau posibl sydd ar gael er mwyn penderfynu ar yr opsiynau sy’n cael eu ffafrio
  11. cadarnhau bod eich cynlluniau yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a safonau sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant
  12. annog cynaliadwyedd ardal y goedwig neu’r coetir i genedlaethau’r dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y cyfleoedd a’r cyfyngiadau sy’n berthnasol i’r goedwig neu’r coetir
  2. natur dynodiadau a sut gall y rhain ddylanwadu ar y cyfleoedd a’r gweithgareddau sydd ar gael
  3. sut i nodi risgiau a goblygiadau unrhyw beryglon posibl
  4. y goblygiadau i iechyd a diogelwch pan fydd y cyhoedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau coedwig neu goetir
  5. y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n benodol i wlad, gan gynnwys hawliau tramwy a mynediad
  6. pwysigrwydd ymgynghori ac ymgysylltu wrth ymchwilio i gyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth gymdeithasol a chymunedol
  7. sut i nodi’r gymuned leol ac ymgysylltu â nhw
  8. pwysigrwydd ymgynghori â’r landlord i ddeall eu dyheadau a beth maen nhw’n barod i’w dderbyn
  9. y goblygiadau o ran atebolrwydd ac yswiriant i’r tirfeddiannwr a sut gallai cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo i grŵp cymunedol
  10. y cyfleoedd a’r gweithgareddau coedwigaeth gymdeithasol a chymunedol y gellir eu cyflawni a goblygiadau’r rhain
  11. sut i asesu ymarferoldeb a hyfywedd cyfleoedd a gweithgareddau posibl
  12. ble a sut i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol
  13. y gwahanol ffactorau y mae angen eu hystyried wrth werthuso cyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth gymdeithasol a chymunedol posibl
  14. sut i reoli problemau sy’n gwrthdaro rhwng defnydd y cyhoedd a rheoli’r amgylchedd
  15. y dulliau cynaliadwy i sicrhau dyfodol y goedwig neu’r coetir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae buddion cymunedol yn cynnwys:

  • ymdeimlad o berchnogaeth
  • dwyn pobl ynghyd
  • diben cyffredin
  • cymryd rhan mewn rheoli
  • cynhyrchion (i’w defnyddio gan y gymuned neu i’w gwerthu)
  • swyddi
  • mynediad a thwristiaeth
  • incwm ychwanegol

Ffactorau i’w hystyried: e.e. cyfreithiol, cost, adnoddau

Partïon â budd:

  • Y rhai sy’n cymryd rhan yn uniongyrchol mewn cyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth gymdeithasol a chymunedol posibl
  • y rhai y mae cyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth gymdeithasol a chymunedol posibl yn effeithio arnynt

Cyfleoedd a chyfyngiadau:

  • polisïau lleol, rhanbarthol, sy’n benodol i wlad a pholisïau byd-eang
  • ffactorau cyfreithiol, ffisegol, amgylcheddol, hamdden, cymunedol, ecolegol, hanesyddol, cymdeithasol, diwylliannol, esthetig ac economaidd

Peryglon posibl: e.e. tir halogedig, rhywogaethau goresgynnol

Mae buddion cymdeithasol yn cynnwys:

  • gwella lles
  • lleihau straen
  • darparu cyfleoedd am ymarfer corff (e.e. “campfeydd gwyrdd”)
  • cerdded
  • cerdded cŵn
  • rhedeg
  • beicio
  • cyfeiriannu
  • ysgolion coedwig
  • grwpiau tywysedig
  • sgowtiaid/geidiaid ac ati
  • gwylio bywyd gwyllt
  • braslunio, paentio, ffotograffiaeth

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw71

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

cymunedol; cyhoeddus; coedwig; coetir; hamdden; cymdeithasol