Gweithredu llwythwr gafael
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu llwythwr gafael i ddewis cynnyrch, llwytho a dadlwytho'r anfonwr. Mae hyn yn cynnwys graddio, gwahanu a phentyrru cynnyrch ar gyfer ei drin neu ei brosesu wedi hynny.
Mae hyn yn berthnasol ar gyfer llwytho a dadlwytho gyda gafael bŵm siglo mewn iard bren neu lanfa.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Mae'r safon hon ond yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gymwys i weithredu peiriant sylfaen gydag atodiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu'r dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- sicrhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cynnal diogelwch y peiriannau a'r offer ar y safle
- dewis, paratoi a chynnal llwybrau mynediad ac ymadael mewn cyflwr defnyddiol
- sicrhau bod niwed i'r safle gwaith, unrhyw goed sydd yn dal i sefyll, llwybrau, ffyrdd, draeniau a'r amgylchedd ehangach yn cael ei gadw o fewn terfynau penodedig
- nodi'r pren i'w lwytho a gosod yr uned sylfaen i weithredu'r llwythwr gafael
- dewis y pren neu gynnyrch arall o faint a phwysau sydd yn cyd-fynd â gallu'r bŵm a'r gafaelwr
- defnyddio'r llwythwr gafael yn ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon i godi, symud a llwytho'r pren neu'r cynnyrch eraill, fe y bo'n berthnasol
- defnyddio'r llwythwr gafael i gywastadu'r cynnyrch pren, fel y bo'n briodol
- cyfyngu'r defnydd o'r bachwr i osgoi niwed i gynnyrch, fel y bo'n berthnasol, wrth lwytho a dadlwytho
- dadlwytho cynnyrch yn ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon i bentyrrau wedi eu gwahanu
- graddio, gwahanu a chronni cynnyrch i hwyluso eu triniaeth, eu prosesu neu eu codi i fyny i gael eu hanfon ymlaen wedi hynny
- bodloni'r gofynion deddfwriaethol ac amgylcheddol sy'n berthnasol i weithredu'r peiriant, yn ogystal â rhai eich sefydliad
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddethol, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- gweithdrefnau'r safle yn cynnwys systemau cyfathrebu a chynlluniau brys
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- pam y mae'n bwysig i gynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
- y canllawiau presennol ar weithredu peiriannau, parthau risg, gweithio ar uchder a chliriadau diogelwch o ddargludyddion trydan uwchben, a beth i'w wneud os bydd cyswllt â llinellau pŵer
- galluoedd a chyfyngiadau'r llwythwr gafael wrth lwytho, mewn perthynas ag uchafswm llwyth gwaith diogel
- cyfyngiadau'r llethr ar weithrediadau llwytho a dadlwytho
- dulliau llwytho a dadlwytho boncyffion hir, polion neu goed hir
- galluoedd codi a chyrhaeddiad a therfynau uchder peiriannau a ddefnyddir i ddadlwytho
- sut i gynnal sefydlogrwydd y peiriant wrth ddadlwytho a gyrru
- sut i wahanu a graddio cynnyrch i fodloni'r fanyleb ofynnol wrth ddadlwytho
- uchder pentyrru diogel, sefydlogrwydd pentyrrau a gofynion llofnodi
- y defnydd o gludwyr lle y bo'n briodol wrth ddadlwytho
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol