Cysylltu a datgysylltu pren i lithrwr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chysylltu a datgysylltu pren i lithrwr.
Gall llithrwyr gynnwys llithrwr gafael neu lithrwr llinell, a chânt eu defnyddio i dynnu coed a phren allan i fan cronni a'i ddadlwytho ar gyfer ei drin a'i brosesu wedi hynny.
Mae'n rhaid eich bod yn gallu cynllunio eich gwaith a'r safle gwaith. Mae'n rhaid i chi hefyd gynnal llwybrau tynnu allan diogel ac ardaloedd glanio pren, gan weithredu'r llythrwr yn ddiogel ac yn effeithlon gan wneud cyn lleied o niwed â phosibl i'r safle gwaith, gweddill y coed sydd yn sefyll, llwybrau, ffyrdd, draeniau a'r amgylchedd ehangach.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer wrth wneud y gwaith hwn.
Mae'r safon hon ond yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gymwys i weithredu peiriant sylfaen gydag atodiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu'r dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- sicrhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cynnal diogelwch y peiriannau a'r offer ar y safle. Dewis, paratoi a chynnal llwybrau mynediad ac ymadael mewn cyflwr defnyddiol
- nodi'r pren i gael ei dynnu allan a chynllunio sut byddwch yn gwneud y gwaith
- dewis coed unigol a lluosog wedi eu torri i lawr, polion neu bren arall i gael ei dynnu allan, yn unol â'r fanyleb
- gosod y peiriant a chysylltu/llwytho'r pren yn ddiogel
- codi'r pren i fyny i allu sydd yn sicrhau llithro diogel ac effeithiol
- defnyddio'r atodiad llithro i gysylltu cynnyrch yn ddiogel ac yn effeithiol
- codi pren i fyny yn wastad â'r peiriant, fel sy'n briodol ar gyfer y math o atodiad
- cyfyngu maint y llwyth ar y llithrwr i osgoi niwed i'r cynnyrch, ansefydlogrwydd y peiriant, colli llwyth, neu niwed i goed sydd yn sefyll, llwybrau, ffyrdd, draeniau a'r amgylchedd ehangach
- gosod y pren yn y lle cywir ar gyfer ymdrin a datgysylltu'r pren o'r peiriant ar ôl hynny yn ddiogel ac yn effeithiol yn y pwynt cronni
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- gweithdrefnau'r safle yn cynnwys systemau cyfathrebu a chynlluniau brys
- y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
- y canllawiau presennol ar gyfer gweithredu peiriannau, parthau risg, gweithio ar uchder a chliriadau diogelwch o ddargludyddion trydan uwchben, a beth i'w wneud os bydd cyswllt â llinellau pŵer
- goblygiadau tirwedd, cyflwr y ddaear, y tymor, y tywydd, math o bren a rhywogaethau i gysylltu/llwytho pren ar lithrwr
- galluoedd a chyfyngiadau gallu'r llithrwr wrth gysylltu/llwytho pren, yn cynnwys cyfyngiadau llethr ac uchafswm llwyth gwaith diogel
- sut i ddehongli manylebau cynnyrch, adnabod y math o bren a rhywogaethau a dewis categorïau cynnyrch i fodloni'r fanyleb ofynnol wrth gysylltu/llwytho pren
- sut i gynnal sefydlogrwydd y pren a'r peiriannau wrth gysylltu/llwytho
- sut a pham y gallai cynnyrch gael ei rannu a/neu ei raddio i fodloni manyleb ofynnol wrth gysylltu/dadlwytho
- goblygiadau'r llwyth yn symud neu'n syrthio wrth ddatgysylltu/dadlwytho
- sut a phryd i ddefnyddio cludwyr wrth ddadlwytho/datgysylltu llwyth
- sut a phryd i ddefnyddio llafn logio neu blât bonyn i gronni pren sy'n cael ei dynnu allan
- y rhagofalon ychwanegol sy'n ofynnol pan fydd pren yn cael ei gronni gerllaw ffyrdd neu lwybrau yn ymwneud â gofynion sefydlogrwydd ac arwyddion rhybudd
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithrediadau gwaith coed - torri i lawr yn glir, teneuo, clirio’r hyn a chwythwyd gan wynt a gweithrediadau pren eraill