Tynnu cynnyrch coed allan trwy graen cebl
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu cynnyrch pren allan gyda chraen cebl. Bydd hyn yn cynnwys rigio craen cebl, paratoi peiriannau gweithredu a defnyddio'r system i dynnu cynnyrch pren allan mewn amgylchedd coedwig neu goetir.
Mae hyn yn cynnwys cynllunio eich gwaith a'r safle gwaith, yn cynnwys asesu, sefydlu a rigio'r system fel eich bod yn gweithredu'r craen cebl yn ddiogel ac yn effeithlon gyda'r niwed lleiaf i'r amgylchedd. Gall cynnyrch pren gynnwys coed cyfan, polion hir, boncyffion a phren byr arall.
Mae'n rhaid eich bod yn gallu gweithredu'r craen cebl o fewn ei derfynau gweithredu dros amrywiaeth o amodau tir, mewn cydweithrediad â gweithredwyr eraill fel y dyn sy'n gweithredu'r gadwyn.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- sicrhau bod yr offer i gyd wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
- paratoi a chadw llwybrau mynediad ac ymadael mewn cyflwr defnyddiol
- sicrhau bod niwed i'r safle gwaith, unrhyw goed sydd yn dal i sefyll, llwybrau, ffyrdd, draeniau a'r amgylchedd ehangach yn cael eu cadw o fewn terfynau penodedig
- gwneud gwaith cynnal a chadw, gwiriadau cyn cychwyn a gosod y peiriant ar gyfer ei ddefnyddio fel mater o drefn
- gyrru a llywio'r peiriant mewn ffordd ddiogel ac effeithiol, o fewn cyfyngiadau'r safle
- sefydlu a rigio'r craen cebl i dynnu cynnyrch pren allan, yn unol â chanllawiau'r cynhyrchydd a'r diwydiant
- codi ac angori'r tŵr lle y bo'n briodol
- rigio ac angori'r fraich ôl, gan nodi rhaffau a phwyntiau angori addas
- gosod cludwr nenlinell
- plethu weiar fel mater o drefn
- cynnal gwaith tîm a chyfathrebu effeithiol gydag aelodau eraill o'r tîm gan ddefnyddio dull priodol
- cadw'r cynnyrch pren sydd wedi eu tynnu allan sydd yn glanio i'r maint y gall y peiriannau, fel anfonwr neu brosesydd/cynaeafwr ymdrin â nhw
- gweithredu'r craen cebl i dynnu'r cynnyrch pren allan yn unol â chyfyngiadau'r safle, mewn ffordd ddiogel ac effeithiol
- sicrhau bod sefydlogrwydd y craen cebl yn cael ei gynnal
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni'r gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- gweithdrefnau'r safle yn cynnwys systemau cyfathrebu a chynlluniau brys
- y mathau o offer a chyfarpar sydd yn ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
- y canllawiau cyfredol ar weithredu peiriannau, parthau risg a chliriadau diogelwch o ddargludyddion trydan uwchben, a beth i'w wneud os bydd cyswllt â llinellau pŵer
- goblygiadau gweithio ar uchder mewn perthynas â rigio craen cebl
- sut i sefydlu a rigio braich artiffisial
- sut i rigio cebl onglog a phryd byddai'n briodol i ddefnyddio winsio onglog
- sut i rigio cymorth canolraddol a phryd byddai'n briodol gwneud hynny
- sut i sefydlu a rigio cymorth artiffisial
- sut i sefydlu angorwyr daear a'u heffeithiolrwydd
- sut i atgyweirio'r brif nenlinell a rhaffau weiar
- pwysigrwydd gwaith onglog pan fydd yr ardal lanio wedi ei chyfyngu
- manteision ac anfanteision cadwyni rhyddhau'n gyflym a chymhorthion ac offer cadwyno
- y mathau o gludwr nenlinell
- goblygiadau tynnu cynnyrch pren gwahanol allan
- y nodweddion a'r technegau gwahanol ar gyfer tynnu cynnyrch pren allan trwy graen cebl gyda systemau gweithredu gwahanol
- galluoedd a chyfyngiadau'r system craen cebl a ddefnyddir, yn cynnwys cyfyngiadau llethr, hyd y pren sy'n cael ei lwytho ac uchafswm y llwyth gwaith diogel
- goblygiadau amodau'r ddaear, y tymor a'r tywydd ar dynnu cynnyrch pren allan gyda chraen cebl
- manteision ac anfanteision tynnu allan i fyny ac i lawr llethr
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Tynnu un neu fwy o'r cynnyrch pren canlynol allan:
- coed cyfan
- polion hir
- boncyffion a phren byr arall
Cyfathrebu gydag aelodau eraill y tîm gan ddefnyddio un neu fwy o'r canlynol:
- arwyddion llaw
- radio dwy ffordd
- penwarau