Tynnu pren a chynnyrch pren allan gan ddefnyddio peiriannau motor
URN: LANTw43
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu pren a chynnyrch pren allan gan ddefnyddio peiriannau motor fel tractorau, addasiadau ATV, llithrwyr cywasgedig a "cheffyl haearn" neu beiriannau eraill sydd ar gledrau.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cynllunio sut byddwch yn gwneud y gwaith
- dewis y peiriant motor cywir a'r offer a'r cyfarpar cywir eraill, fel ôl-gerbydau, ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei wneud
- cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
- dewis, paratoi a chadw'r llwybrau mynediad ac ymadael mewn cyflwr defnyddiol
- llwytho a dadlwytho peiriant motor yn ddiogel o'r cludwr lle bo angen
- paratoi'r peiriant a'r offer trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn defnyddio, yn unol â manylebau, yn cynnwys amddiffynfeydd diogelwch
- gwirio'r ardal waith uniongyrchol am beryglon a rhwystrau cyn gweithredu'r peiriant a defnyddio'r arwyddion rhybudd cywir bob amser
- gweithredu a symud y peiriant yn ddiogel, ac mewn ffordd sydd yn gyson â'r math o beiriant, y tywydd, cyflwr y ddaear, mathau o dirwedd a chyfyngiadau'r safle
- ymdrin ag unrhyw beryglon neu rwystrau y doir ar eu traws yn ystod y gweithrediad, yn unol ag ymarfer safonol
- defnyddio amddiffynfeydd ychwanegol wrth yrru am yn ôl a chydymffurfio â phellterau diogelwch gyferbyn â ffyrdd a llwybrau neu ble mae pobl eraill yn gweithio
- cynnal effeithlonrwydd y peiriant trwy ymdrin a chynnal a chadw priodol
- tynnu pren a chynnyrch pren yn effeithiol ac yn effeithlon gan ddefnyddio llwybrau tynnu allan cytûn
- graddio a gwahanu pren a chynnyrch pren, yn unol â'r fanyleb
- cronni pren a chynnyrch pren yn yr ardal gytûn, er mwyn hwyluso eu codi i fyny a'u hanfon ymlaen
- atal ac ynysu'r peiriant ar ôl cwblhau'r gweithgaredd a'i adael yn ddiogel ac mewn cyflwr addas i'w ddefnyddio yn y dyfodol
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- gweithdrefnau'r safle yn cynnwys systemau cyfathrebu a chynlluniau brys
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd peiriannau ac offer ar y safle
- pwysigrwydd cynllunio sut byddwch yn gwneud y gwaith
- sut i ddewis y peiriant motor cywir a manteision defnyddio peiriannau gwahanol i dynnu pren a chynnyrch pren allan
- y gofynion ar gyfer strwythurau amddiffyn peiriannau a gweithredwyr
- y weithdrefn ar gyfer llwytho a dadlwytho'r peiriant o'r cludwr lle bo angen
- yr angen am a buddion cynnal gwiriadau a gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio fel mater o drefn yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- sut i fynd ar ac oddi ar y peiriant yn ddiogel
- sut i ddechrau a diffodd y peiriant yn cynnwys y broses gywir ar gyfer dechrau â naid
- swyddogaeth a'r holl reoliadau a'r offerynnau ar gyfer y peiriant, yn cynnwys systemau cyfrifiadurol lle maent wedi eu gosod
- sut i ddehongli manylebau cynnyrch a didoli'r cynnyrch yn gategorïau cynnyrch wrth lwytho
- galluoedd a chyfyngiadau'r peiriant motor a ddefnyddir, yn cynnwys cyfyngiadau llethrau ac uchafswm y llwyth gwaith diogel
- sut i ddewis llwybrau tynnu allan addas
- goblygiadau tir, cyflwr y ddaear, y tymor, y tywydd, llwyth a math/cyflwr y pren ar gynllunio llwybrau mynediad a gyrru'r peiriant
- effaith llwythau anghytbwys ar dynnu allan
- dulliau graddio, pentyrru ac ymdrin â chynnyrch
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Defnyddio un neu fwy o'r canlynol:
- tractorau
- addasiadau ATV
- llithrwyr cywasgedig a "cheffyl haearn"
- peiriannau ar gledrau tebyg
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amgylchedd y gweithredwr:
- sedd
- olwyn lywio
- drychau
- gwregys diogelwch
Cyflwr y ddaear:
- Gwlyb
- Sych
- Rhew
- Ia
- Mwd
- Tir rhydd
Manylebau:
- lluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
Strwythurau amddiffyn:
- Strwythurau Amddiffynnol Gweithredwr (OPS)
- Strwythurau Amddiffynnol Rholio (ROPS)
- Strwythurau Amddiffynnol Gwrthrychau'n Disgyn (FOPS)
Tirwedd:
- arwynebeddau caled
- arwynebeddau meddal
- arwynebeddau anwastad
- llethrau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw43
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwigoedd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
coedwig; pren; tynnu allan; pren; tractorau; addasiadau ATV; llithrwyr cywasgedig; ceffyl haearn