Tynnu pren a chynnyrch pren allan gan ddefnyddio peiriannau motor

URN: LANTw43
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu pren a chynnyrch pren allan gan ddefnyddio peiriannau motor fel tractorau, addasiadau ATV, llithrwyr cywasgedig a "cheffyl haearn" neu beiriannau eraill sydd ar gledrau.

Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. cynllunio sut byddwch yn gwneud y gwaith
  5. dewis y peiriant motor cywir a'r offer a'r cyfarpar cywir eraill, fel ôl-gerbydau, ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei wneud
  6. cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
  7. dewis, paratoi a chadw'r llwybrau mynediad ac ymadael mewn cyflwr defnyddiol
  8. llwytho a dadlwytho peiriant motor yn ddiogel o'r cludwr lle bo angen
  9. paratoi'r peiriant a'r offer trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn defnyddio, yn unol â manylebau, yn cynnwys amddiffynfeydd diogelwch
  10. gwirio'r ardal waith uniongyrchol am beryglon a rhwystrau cyn gweithredu'r peiriant a defnyddio'r arwyddion rhybudd cywir bob amser
  11. gweithredu a symud y peiriant yn ddiogel, ac mewn ffordd sydd yn gyson â'r math o beiriant, y tywydd, cyflwr y ddaear, mathau o dirwedd a chyfyngiadau'r safle
  12. ymdrin ag unrhyw beryglon neu rwystrau y doir ar eu traws yn ystod y gweithrediad, yn unol ag ymarfer safonol
  13. defnyddio amddiffynfeydd ychwanegol wrth yrru am yn ôl a chydymffurfio â phellterau diogelwch gyferbyn â ffyrdd a llwybrau neu ble mae pobl eraill yn gweithio
  14. cynnal effeithlonrwydd y peiriant trwy ymdrin a chynnal a chadw priodol
  15. tynnu pren a chynnyrch pren yn effeithiol ac yn effeithlon gan ddefnyddio llwybrau tynnu allan cytûn
  16. graddio a gwahanu pren a chynnyrch pren, yn unol â'r fanyleb
  17. cronni pren a chynnyrch pren yn yr ardal gytûn, er mwyn hwyluso eu codi i fyny a'u hanfon ymlaen
  18. atal ac ynysu'r peiriant ar ôl cwblhau'r gweithgaredd a'i adael yn ddiogel ac mewn cyflwr addas i'w ddefnyddio yn y dyfodol
  19. sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
  20. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. gweithdrefnau'r safle yn cynnwys systemau cyfathrebu a chynlluniau brys
  5. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd peiriannau ac offer ar y safle
  6. pwysigrwydd cynllunio sut byddwch yn gwneud y gwaith
  7. sut i ddewis y peiriant motor cywir a manteision defnyddio peiriannau gwahanol i dynnu pren a chynnyrch pren allan
  8. y gofynion ar gyfer strwythurau amddiffyn peiriannau a gweithredwyr
  9. y weithdrefn ar gyfer llwytho a dadlwytho'r peiriant o'r cludwr lle bo angen
  10. yr angen am a buddion cynnal gwiriadau a gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio fel mater o drefn yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr
  11. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  12. sut i fynd ar ac oddi ar y peiriant yn ddiogel
  13. sut i ddechrau a diffodd y peiriant yn cynnwys y broses gywir ar gyfer dechrau â naid
  14. swyddogaeth a'r holl reoliadau a'r offerynnau ar gyfer y peiriant, yn cynnwys systemau cyfrifiadurol lle maent wedi eu gosod
  15. sut i ddehongli manylebau cynnyrch a didoli'r cynnyrch yn gategorïau cynnyrch wrth lwytho
  16. galluoedd a chyfyngiadau'r peiriant motor a ddefnyddir, yn cynnwys cyfyngiadau llethrau ac uchafswm y llwyth gwaith diogel
  17. sut i ddewis llwybrau tynnu allan addas
  18. goblygiadau tir, cyflwr y ddaear, y tymor, y tywydd, llwyth a math/cyflwr y pren ar gynllunio llwybrau mynediad a gyrru'r peiriant
  19. effaith llwythau anghytbwys ar dynnu allan
  20. dulliau graddio, pentyrru ac ymdrin â chynnyrch
  21. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  22. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Defnyddio un neu fwy o'r canlynol:

  • tractorau
  • addasiadau ATV
  • llithrwyr cywasgedig a "cheffyl haearn"
  • peiriannau ar gledrau tebyg

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Amgylchedd y gweithredwr:

  • sedd
  • olwyn lywio
  • drychau
  • gwregys diogelwch

Cyflwr y ddaear:

  • Gwlyb
  • Sych
  • Rhew
  • Ia
  • Mwd
  • Tir rhydd

Manylebau:

  • lluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer

Strwythurau amddiffyn:

  • Strwythurau Amddiffynnol Gweithredwr (OPS)
  • Strwythurau Amddiffynnol Rholio (ROPS)
  • Strwythurau Amddiffynnol Gwrthrychau'n Disgyn (FOPS)

Tirwedd:

  • arwynebeddau caled
  • arwynebeddau meddal
  • arwynebeddau anwastad
  • llethrau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw43

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwigoedd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

coedwig; pren; tynnu allan; pren; tractorau; addasiadau ATV; llithrwyr cywasgedig; ceffyl haearn