Tynnu pren allan gan ddefnyddio winshis mecanyddol

URN: LANTw42
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu pren allan gan ddefnyddio winshis mecanyddol. Mae'n cynnwys gweithredu winshis mecanyddol i dynnu coed neu bren wedi ei dorri i lawr i mewn i safle er mwyn ei brosesu neu ei dynnu allan ymhellach. Agwedd bwysig ar y gwaith hwn yw'r cyfathrebu rhwng y dyn sy'n gosod y gadwyn a gweithredwr y winsh.

Mae'r safon hon hefyd yn cynnwys defnyddio winshis ar gyfer tynnu llinell unigol wrth dynnu pren allan, atal neu rolio coed (e.e. wrth weithio ar goed sydd wedi eu chwythu gan wynt, pren ar lethrau neu goed ansefydlog sydd wedi eu torri i lawr).

Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen i chi fod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.

Mae'r safon hon ond yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gymwys i weithredu peiriant sylfaenol gydag atodiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu'r dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  6. cynnal diogelwch y peiriannau a'r offer ar y safle
  7. dewis, paratoi a chadw llwybrau mynediad ac ymadael mewn cyflwr defnyddiol
  8. sicrhau bod niwed i'r safle gwaith, unrhyw goed sydd yn dal i sefyll, llwybrau, ffyrdd a'r amgylchedd ehangach yn cael eu cadw o fewn terfynau penodedig
  9. sicrhau bod y cebl a chydrannau eraill y system â gallu a hyd digonol ar gyfer y llwyth i'w chario a'r pellter i'w dynnu
  10. cynnal gwaith tîm a chyfathrebu effeithiol gydag aelodau eraill o'r tîm wrth ddefnyddio winsh, gan ddefnyddio dull priodol
  11. tynnu'r cebl allan gan osgoi rhwystrau i'r broses winsio
  12. nodi a dewis y pren i gael ei dynnu, yn unol â'r fanyleb
  13. sicrhau bod pren yn cael ei gadwyno yn briodol ar gyfer defnyddio'r winsh yn ddiogel ac yn effeithiol
  14. gweithredu winsh fecanyddol i dynnu'r pren allan yn unol â chyfyngiadau'r safle, mewn ffordd ddiogel ac effeithiol
  15. rhoi'r gorau i ddefnyddio'r winsh pan fyddwch yn cael arwydd i wneud hynny
  16. defnyddio rhagofalon ychwanegol a chydymffurfio â phellterau diogelwch wrth ddefnyddio'r winsh gerllaw ffyrdd a llwybrau neu lle mae pobl eraill yn gweithio
  17. sicrhau bod y pren mewn safle diogel cyn rhyddhau'r cadwynau, neu gysylltu'r llwyth i'r winsh, os yw'n llithro
  18. sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
  19. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. gweithdrefnau'r safle yn cynnwys systemau cyfathrebu a chynlluniau brys
  5. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
  6. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  7. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
  8. y canllawiau cyfredol ar weithredu peiriannau, parthau risg a chliriadau diogelwch o'r dargludyddion trydan uwchben a beth i'w wneud os bydd cyswllt â llinellau pŵer
  9. egwyddorion gweithredu winsh yn fecanyddol a'r llwythau i'w gweithredu, yn cynnwys lluosogi'r grymoedd pan fydd blociau pwli (cipio) yn cael eu defnyddio
  10. y cyfyngiadau derbyniol i draul ceblau wrth ddefnyddio'r winsh ar gyfer torri coed i lawr gyda chymorth cyfeiriadol neu atal coed wedi eu chwythu gan wynt
  11. mae'r wybodaeth o'r Dystysgrif Gydymffurfio yn ei wneud yn ofynnol sicrhau bod gan y cêbl straen torri a nodwyd
  12. y gwiriadau a'r gwaith cynnal a chadw angenrheidiol gan y gweithredwr i'r cêbl a'i derfynell, strapiau, pwlis, hualau, bachau, cadwyni ac ati cyn ac yn ystod eu defnyddio, yn cynnwys nodi gallu'r offer i ddal y llwyth
  13. goblygiadau tirwedd, cyflwr y ddaear, y tymor, y tywydd, math o bren a rhywogaethau i osod cêbl ar gyfer codi pren â winsh
  14. y problemau, peryglon a'r risgiau ychwanegol a gyflwynir wrth weithio ar lethrau serth wrth godi pren â winsh
  15. sut i adnabod y math o bren a'r rhywogaethau a dewis categorïau'r cynnyrch er mwyn bodloni'r fanyleb ofynnol
  16. beth i edrych amdano wrth lwybro'r cêbl, o ran rhwystrau y gellir dod ar eu traws pan fydd y winsh yn cael ei weithredu
  17. y pwyntiau ychwanegol i'w hystyried wrth osod y cêbl a chadwyno coesau lluosog
  18. beth i'w ystyried wrth ddewis strapiau a phwyntiau angori wrth sefydlu pwlis a ddefnyddir i dynnu wedi ei wrthbwyso, rigio dwbl neu arwain uchel, yn ymwneud â lluosogi'r grymoedd a ddefnyddir
  19. gallu strapiau angori pwli i ddal llwyth mewn cyfluniadau amrywiol
  20. yr arwyddion a'r dulliau o roi arwyddion rhwng gweithredwr y winsh neu'r arolygwr  a'r dyn sy'n gosod y cadwynau
  21. sut i ymdrin â phren sy'n dod ar draws rhwystr pan fydd yn cael ei dynnu i mewn gan winsh
  22. effaith llwythau siâp lletchwith neu wedi eu cadwyno'n wael ar dynnu llinell weiar
  23. y peryglon a'r risgiau ychwanegol cysylltiedig wrth ddefnyddio winshis ar gefn cerbyd heb unrhyw angor ar y ddaear, fel ar dractorau neu lithrwyr coedwigaeth, a'u hansefydlogrwydd ar gyfer atal coesau wedi eu chwythu gan wynt a phlatiau gwreiddiau neu wrth dorri coed i lawr â chymorth cyfeiriadol
  24. sut y dylid gosod pwlis gwrthbwyso os yn defnyddio winsh i lawr llethr serth, i osgoi niwed i offer winsio neu anaf i'r gweithredwr
  25. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  26. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch

Cwmpas/ystod

​Pren, naill ai fel coesau unigol neu luosog, blaen gyntaf ac ôl gyntaf

Cyfathrebu gydag aelodau eraill o'r tîm gan ddefnyddio un neu fwy o'r canlynol:

  • arwyddion llaw
  • radio dwy ffordd
  • penwarau

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfluniadau strapiau angor pwli – "basged" yn erbyn "cadwyn"**

**

Pren cadwyn** – defnydd o gadwyn sy'n tynhau'n awtomatig ac na fydd yn dadwneud


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw42

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwigoedd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cêbl; winshis; coedwig; pren