Prosesu pren gan ddefnyddio peiriannau mawr sy’n cael eu bwydo gan lwythwr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu pren gan ddefnyddio peiriannau mawr sy'n cael eu bwydo gan lwythwr.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio gyda'r mathau canlynol o beiriannau sy'n cael eu bwydo gan lwythwr i brosesu pren i mewn i ystod eang o gynnyrch. Mae enghreifftiau'n cynnwys asglodwyr pren mawr sy'n cael eu hunan-lywio neu ar ben tractor neu beiriannau rhwygo ar gefn cerbyd, malwyr llorweddol neu falwyr twb. Defnydd terfynol y cynnyrch fydd ar gyfer tanwydd, taenu, gosod arwyneb neu gynnyrch cyfaint mawr arall.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Mae'r safon hon ond yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gymwys i weithredu peiriant sylfaen gydag atodiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu'r dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cynnal diogelwch y peiriannau a'r offer ar y safle
- cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
- cynllunio'r gwaith a'r safle gwaith a chynnal ardaloedd gwaith diogel er mwyn gweithredu'r peiriant prosesu pren mawr sy'n cael ei fwydo gan lwythwr yn ddiogel ac yn effeithlon, yn unol â'r safle a'r fanyleb
- llywio neu gyfeirio'r gwaith o lywio'r peiriant i'w safle gwaith a gosod yr offer bwydo i mewn a rhyddhau
- llwytho'r peiriant prosesu gyda'r cynnyrch pren i gael ei brosesu
- gweithredu'r peiriant mawr sy'n cael ei fwydo gan lwythwr i brosesu'r pren, yn unol â'r fanyleb
- monitro offer a dyfeisiadau bwydo i mewn a rhyddhau am falurion, rhwystrau a llif rhydd deunyddiau, fel y bo'n briodol
- cynnwys pren wedi ei brosesu yn ddiogel yn ystod y gweithrediadau
- cynnal y weithdrefn cau i lawr, fel y bo'n briodol i'r peiriant
- dilyn arfer da amgylcheddol fel y nodwyd gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- gweithdrefnau'r safle yn cynnwys systemau cyfathrebu a chynlluniau brys
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
- y canllawiau cyfredol ar weithredu peiriannau, parthau risg a chliriadau diogelwch o ddargludyddion trydan uwchben, gweithio ar uchder a beth i'w wneud os bydd cyswllt â llinellau pŵer
- y mathau gwahanol o beiriannau sydd ar gael a'u dull o weithredu a phrosesu
- dangosyddion gweithrediad arferol ac anarferol peiriant a'r camau priodol i'w cymryd
- y dulliau o fwydo'r peiriant mawr sy'n cael ei fwydo gan lwythwr a'r technegau a'r rhagofalon angenrheidiol
- galluoedd a chyfyngiadau'r peiriant a ddefnyddir mewn perthynas ag ystod o safleoedd a phren i gael ei brosesu
- goblygiadau prosesu boncyffion hir, polion neu bren hyd coeden i weithrediad y peiriant
- sut i ddadflocio offer bwydo i mewn a rhyddhau a'r rhagofalon angenrheidiol wrth ymdrin ag offer uchel
- y weithdrefn atal mewn argyfwng ar gyfer y peiriant
- pellterau gwaith diogel rhwng peiriannau wrth weithio'n agos at beiriannau eraill
- ystyriaethau diogelwch ac amgylcheddol pentyrru meintiau mawr o gynnyrch fel asglodion pren
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Defnyddio un neu fwy o'r canlynol:
- asglodwyr pren mawr, hunan-lywio neu ar ben tractor
- rhwygwyr ôl neu ar gefn cerbyd
- malwyr llorweddol neu falwyr twb