Prosesu pren gan ddefnyddio peiriannau bwydo â llaw
URN: LANTw40
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2017                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu pren gan ddefnyddio peiriannau bwydo â llaw.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio gyda pheiriannau bwydo â llaw fel y canlynol: mainc llif symudol, prosesydd coed tân, holltwr polyn, peiriant hogi, pliciwr (tynnu rhisgl) neu asglodiwr pren, i brosesu pren mewn i ystod eang o gynnyrch.
Wrth weithio gyda pheiriannu mae angen eich bod wedi cael yr hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle y bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
 - dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
 - dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
 - dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
 - cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
 - cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
 - gwneud gwaith cynnal, gwiriadau cyn cychwyn a gosod y peiriant ar gyfer ei ddefnyddio fel mater o drefn
 - gosod a sefydlu'r peiriant mewn perthynas â'r safle gwaith a'r deunyddiau i gael eu prosesu
 - prosesu pren gan ddefnyddio peiriannau bwydo â llaw, yn unol â'r fanyleb
 - pentyrru cynnyrch yn ddiogel ac mewn safle sy'n hwyluso eu trin wedi hynny, lle y bo'n briodol
 - sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
 - sicrhau bod cronni pren wedi ei brosesu ac is-gynnyrch o fewn y terfynau a nodwyd ac nad yw'n effeithio ar ddiogelwch y safle
 - cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
 - sut i ddehongli asesiadau risg
 - sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
 - gweithdrefnau'r safle yn cynnwys systemau cyfathrebu a chynlluniau brys
 - y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
 - y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
 - pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd peiriannau ac offer ar y safle
 - yr angen am a buddion cynnal gwiriadau gweithredwr fel mater o drefn a gwaith cynnal a chadw yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
 - galluoedd a chyfyngiadau'r peiriannau a ddefnyddir
 - y mathau gwahanol o beiriannau prosesu pren trwy fwydo â llaw sydd ar gael a'u defnydd
 - goblygiadau tirwedd, cyflwr y ddaear, y tymor a thywydd ar ardaloedd gwaith a phentyrru, ac ar y defnydd o beiriannau
 - y canllawiau cyfredol ar weithredu peiriannau, parthau perygl a chliriadau diogelwch o ddargludyddion trydan uwchben, a beth i'w wneud os bydd cyswllt â llinellau pŵer
 - sut i sefydlu ardal waith ar gyfer prosesu pren, yn cynnwys safle'r prosesydd pren, y pren sy'n barod i gael ei drosi a'r ardaloedd pentyrru'r cynnyrch a'r isgynnyrch
 - goblygiadau trosi pren hir ar weithrediad y peiriant, yn cynnwys cynhyrchu cynnyrch hir fel rheiliau hollt ar lif cylch
 - y dulliau o raddio, pentyrru ac ymdrin â chynnyrch ac is-gynnyrch, â llaw a chyda chymorth peiriannau trin
 - y pellterau gweithio diogel rhwng peiriannau wrth weithio'n agos at beiriannau eraill
 - effeithiau posibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau'r rhain
 - eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANTw40
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwigoedd        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            pren; proses; peiriannau; mainc llif symudol; prosesydd coed tân; holltwr polyn; peiriant hogi; pliciwr; peiriant tynnu rhisgl; asglodiwr pren