Paratoi safleoedd ar gyfer plannu
URN: LANTw4
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi safleoedd ar gyfer plannu.
Mae dulliau paratoi yn cynnwys dulliau llaw, wedi eu rheoli gan gerddwyr, offer ar ben tractor a pheiriannau ac maent yn addas ar gyfer pob gweithiwr sydd yn gysylltiedig â pharatoi safleoedd ar gyfer plannu.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gemegion, bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau'r gwaith
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r risg a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol priodol (PPE) ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- dewis y dulliau paratoi priodol yn unol â'r manylebau a'r safle
- paratoi'r safle ar gyfer plannu yn unol â'r manylebau, gan ystyried yr amodau perthnasol ar y safle
- gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael
- dileu'r holl wastraff a'r deunyddiau dros ben a'u gwaredu fel y nodwyd
- cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
- dilyn arfer da amgylcheddol sefydliadol a'r diwydiant a lleihau niwed amgylcheddol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau'r gwaith a'r canfyddiadau y mae'n rhaid eu nodi
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- y dulliau gwahanol o baratoi safleoedd ar gyfer plannu
- sut i ddehongli manylebau a dewis dulliau paratoi priodol
- effeithiau cyflwr y safle ar ddewis dulliau amaethu
- sut i ymdrin ag unrhyw rwystrau tanddaearol, ar yr wyneb ac uwchben
- y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen a sut i gynnal a chadw a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch offer a cherbydau ar y safle
- y dulliau cywir o waredu deunydd a/neu wastraff dros ben
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Dulliau – defnyddio un o'r canlynol:
- amaethu â llaw
- amaethu â pheiriant
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau perthnasol – e.e. tywydd, cyflwr y ddaear
Gallai safleoedd gynnwys:
- maes glas
- dynodedig
- adfail trefol
- tir wedi ei adfer
- presennol
- wedi ei ddiogelu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw4
Galwedigaethau Perthnasol
Garddwr, Garddwriaeth a choedwigaeth, Gofalwr Tir, Tirluniwr, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
safle; paratoi; amaethu; coed; planhigion