Mesur ac asesu cyfaint ac ansawdd pren sydd wedi’i gwympo
URN: LANTw38
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â mesur ac asesu cyfaint ac ansawdd pren sydd wedi’i gwympo gan ddefnyddio’r dulliau priodol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- defnyddio gwybodaeth a chyfarpar sydd ar gael i fesur a chofnodi cyfaint y pren sydd wedi’i gwympo, yn unol â’r fanyleb
- asesu ansawdd y pren sydd wedi’i gwympo a gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau
- cynnal diogeledd y pren sydd wedi’i gwympo ac sy’n cael ei gadw ar y safle
- cwblhau a storio cofnodion rheoli stoc yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE)
- sut i ddefnyddio prennau mesur boncyffion a thablau cyfaint metrig
- dosbarthiad boncyffion pren meddal a’u cyflwyniad
- sut i ddefnyddio tablau troedfeddi Hoppus wrth asesu a rhagweld cyfeintiau pren wedi’i gwympo ar gyfer coed llydanddail mawr
- ffynonellau gwybodaeth eraill, fel cynaeafwyr, y gallant gael eu defnyddio i asesu cyfaint y pren sydd wedi’i gwympo
- sut i fesur, cofnodi a chyfrifo cyfaint y pren sydd wedi’i gwympo at ddibenion cyfrif stoc, er mwyn canfod y math o werthiant a’r taliad yn gysylltiedig â’r gwaith a wnaed
- sut i ddefnyddio pecynnau cyfrifo cyfaint ar gyfrifiadur
- y perthnasoedd rhwng tunelli metrig dros-risgl (O/B) ac is-risgl (U/B) ar sail rhywogaeth, maint ac oedran y pren, adeg y flwyddyn ac am ba hyd y mae’r pren wedi’i gwympo
- sut i nodi rhywogaethau coed o bren wedi’i gwympo
- nodweddion gwahanol rywogaethau pren a sut mae hyn yn effeithio ar eu hansawdd a’u gwerth posibl
- graddau gwahanol pren a’u gwerth cymharol
- y wybodaeth y gellir ei defnyddio i fonitro ansawdd cynhyrchion
- gwahanol ffyrdd o werthu pren, gan gynnwys cyfaint a phwysau
- pwysigrwydd cynnal diogeledd y pren sydd wedi’i gwympo ar y safle a sut gellir gwneud hyn
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Sut i fesur:
- boncyffion a pholion unigol
- coed unigol
- pren crwn bach
Cyfaint y pren sydd wedi’i gwympo:
- diamedr brig is-risgl (U/B) a diamedr canol dros-risgl (O/B) x hyd (ar gyfer boncyffion a pholion)
- diamedr brig cyfartalog x hyd (ar gyfer amcangyfrifon pren crwn bach)
- hyd cyfartalog x uchder x lled x c/f ar gyfer gofod aer (ar gyfer cyfaint wedi’i bentyrru)
- mesur cyfaint a’i drosi’n fetrau ciwbig U/B
- metrau ciwbig O/B – ffactor trawsnewid tunelli metrig/m3
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. Llawlyfr Mesur y Comisiwn Coedwigaeth)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2029
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw67
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth, Prysgoedio
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
mesur; asesu; cyfaint; ansawdd; pren