Mesur ac asesu cyfaint ac ansawdd pren sydd wedi’i gwympo

URN: LANTw38
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â mesur ac asesu cyfaint ac ansawdd pren sydd wedi’i gwympo gan ddefnyddio’r dulliau priodol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  4. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  5. defnyddio gwybodaeth a chyfarpar sydd ar gael i fesur a chofnodi cyfaint y pren sydd wedi’i gwympo, yn unol â’r fanyleb
  6. asesu ansawdd y pren sydd wedi’i gwympo a gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau
  7. cynnal diogeledd y pren sydd wedi’i gwympo ac sy’n cael ei gadw ar y safle
  8. cwblhau a storio cofnodion rheoli stoc yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud
  3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  4. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  5. dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE)
  6. sut i ddefnyddio prennau mesur boncyffion a thablau cyfaint metrig
  7. dosbarthiad boncyffion pren meddal a’u cyflwyniad
  8. sut i ddefnyddio tablau troedfeddi Hoppus wrth asesu a rhagweld cyfeintiau pren wedi’i gwympo ar gyfer coed llydanddail mawr
  9. ffynonellau gwybodaeth eraill, fel cynaeafwyr, y gallant gael eu defnyddio i asesu cyfaint y pren sydd wedi’i gwympo
  10. sut i fesur, cofnodi a chyfrifo cyfaint y pren sydd wedi’i gwympo at ddibenion cyfrif stoc, er mwyn canfod y math o werthiant a’r taliad yn gysylltiedig â’r gwaith a wnaed
  11. sut i ddefnyddio pecynnau cyfrifo cyfaint ar gyfrifiadur
  12. y perthnasoedd rhwng tunelli metrig dros-risgl (O/B) ac is-risgl (U/B) ar sail rhywogaeth, maint ac oedran y pren, adeg y flwyddyn ac am ba hyd y mae’r pren wedi’i gwympo
  13. sut i nodi rhywogaethau coed o bren wedi’i gwympo
  14. nodweddion gwahanol rywogaethau pren a sut mae hyn yn effeithio ar eu hansawdd a’u gwerth posibl
  15. graddau gwahanol pren a’u gwerth cymharol
  16. y wybodaeth y gellir ei defnyddio i fonitro ansawdd cynhyrchion
  17. gwahanol ffyrdd o werthu pren, gan gynnwys cyfaint a phwysau
  18. pwysigrwydd cynnal diogeledd y pren sydd wedi’i gwympo ar y safle a sut gellir gwneud hyn
  19. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Sut i fesur:

  • boncyffion a pholion unigol
  • coed unigol
  • pren crwn bach

Cyfaint y pren sydd wedi’i gwympo:

  • diamedr brig is-risgl (U/B) a diamedr canol dros-risgl (O/B) x hyd (ar gyfer boncyffion a pholion)
  • diamedr brig cyfartalog x hyd (ar gyfer amcangyfrifon pren crwn bach)
  • hyd cyfartalog x uchder x lled x c/f ar gyfer gofod aer (ar gyfer cyfaint wedi’i bentyrru)
  • mesur cyfaint a’i drosi’n fetrau ciwbig U/B
  • metrau ciwbig O/B – ffactor trawsnewid tunelli metrig/m3

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. Llawlyfr Mesur y Comisiwn Coedwigaeth)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw67

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Prysgoedio

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

mesur; asesu; cyfaint; ansawdd; pren