Rheoli coed a llystyfiant yn agos at gyfleustodau o dan y ddaear

URN: LANTw37
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli coed a llystyfiant yn agos at gyfleustodau o dan y ddaear h.y. gwaith sy'n gysylltiedig â, neu'n agos at, wasanaethau a chyfleustodau.

Mae'r safon yn cynnwys rheolaeth wedi ei gynllunio o goed a llystyfiant o amgylch y cyfleustod, er mwyn i'r cyfleustod allu parhau i weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys paratoi a gweithredu'r gwaith gofynnol yn ddiogel gan roi ystyriaeth ddyledus i'r peryglon cysylltiedig. Mae'n rhaid i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd hwn fod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â gwaith y cyfleustod, yn arbennig peryglon trydanol.

Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael yr hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis, paratoi a defnyddio'r offer arbenigol angenrheidiol ar gyfer gweithrediadau rheoli coed a llystyfiant
  5. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  6. sicrhau bod yr arwyddion a'r rheolyddion gwarchod gofynnol yn eu lle
  7. ail-ddilysu unrhyw asesiadau risg a chyfarwyddiadau gwaith wedi eu paratoi ymlaen llaw
  8. cynnal a gweithredu offer arbenigol yn unol â pharamedrau penodol y cynhyrchydd a'r cyfleustod
  9. rheoli coed a llystyfiant, yn cynnwys tocio'r gwreiddiau, lle mae'n agos at gyfleustodau o dan y ddaear, er mwyn sicrhau lleihau ei effaith ar gyfleustodau
  10. sicrhau bod ffosydd yn cael eu hailosod gan ddefnyddio ôl-lenwad addas wedi ei wella
  11. gwneud gwaith yn unol â'r fanyleb
  12. sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
  13. cadw cofnodion i fodloni gofynion y cyfleustod a'r ddeddfwriaeth berthnasol
  14. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
  5. lefel y perygl a gyflwynir gan goed a llystyfiant naill ai o'u cyflwr biofecanyddol a/neu eu hagosatrwydd at y cyfleustod.
  6. sut i werthuso'r goeden am beryglon a goblygiadau'r peryglon a nodir
  7. effaith debygol gwaith arfaethedig y cyfleustod ar goed a llystyfiant
  8. y defnydd o offer diogelwch priodol sy'n benodol i'r cyfleustod perthnasol a'r offer ar gyfer gweithredu
  9. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  10. y peryglon a'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â gweithio'n agos at y cyfleustod, yn cynnwys unrhyw strwythurau cysylltiedig a phellterau diogelwch a'r defnydd o offer
  11. diben dogfennau diogelwch penodol i gyfleustod
  12. goblygiadau rhywogaethau gwahanol o goed, eu cyflwr a'r adeg o'r flwyddyn wrth gynllunio gweithrediadau tocio gwreiddiau a sut bydd y rhain yn effeithio ar y gwaith
  13. egwyddorion sylfaenol bioleg coed a goblygiadau lleihau gwreiddiau ar rywogaethau gwahanol o goed
  14. pwysigrwydd cadw gwreiddiau cyhyd â phosibl ac ôl-lenwi gofalus
  15. pwysigrwydd nodi, gosod a chynnal parthau gwaith diogel, a llwybrau priodol peiriannau, offer a chyfarpar
  16. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw37

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfleustod; llystyfiant; gwasanaethau tanddaearol