Mesur, marcio ac asesu cyfaint coed sy’n sefyll
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â mesur ac asesu cyfaint y coed sy’n sefyll yn barod ar gyfer cynaeafu ac echdynnu. Hefyd, mae’n cynnwys dewis a marcio lleiniau enghreifftiol a marcio coed sy’n barod i’w hechdynnu.
Gellir marcio coed i ddangos bod angen eu tynnu neu i ddangos eu bod yn aros yn y tymor hwy. Mae’n rhaid bod dewis a marcio coed yn ystyried llwybrau echdynnu.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- nodi ardal y coed sy’n sefyll fydd yn cael ei hasesu a’i marcio
- cwblhau gweithdrefn cyn tariff i sefydlu’r cynllun samplu priodol ac, os byddwch yn teneuo, y dwysedd sy’n ofynnol
- mesur ac asesu cyfaint y coed sy’n sefyll yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a’r tariff priodol
- cwblhau gwiriadau priodol y maes tariff i sicrhau bod gwallau’n cael eu dileu
- marcio’r clwstwr ar gyfer cynaeafu ac echdynnu, gan gynnwys y system echdynnu
- gwneud asesiadau parhaus o’r arwynebedd gwaelodol yn achos gwaith teneuo i sicrhau bod y cyfaint cywir yn cael ei dynnu
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE)
- technegau llywio a mapio a sut i ddefnyddio’r rhain
- sut i nodi rhywogaethau coed sy’n sefyll
- sut i fesur pren sy’n sefyll a beth sydd angen ei ystyried wrth asesu cyfaint coed sy’n sefyll
- sut i ddefnyddio technegau mesur coedwig a choetir
- gweithdrefn y tariff a sut mae’n gweithio
- sut i ddefnyddio systemau tariff llawn a chryno
- manylebau cynhyrchion, gan gynnwys ansawdd, yr hyd mwyaf a lleiaf, a’r diamedrau mwyaf a lleiaf
- y cynhyrchion a’r marchnadoedd sydd ar gael
- sut i fesur cnwd teneuo, dwysedd teneuo ac arwynebedd gwaelodol
- pryd mae’n briodol cwympo cyfaint o goed enghreifftiol
- y meini prawf ar gyfer penderfynu rhwng dulliau dethol dewisol a systematig
- arwyddocâd mathau o deneuo ar ddewis a marcio, yn cwmpasu teneuo isel, rhyngol, corun a llinell
- sut i farcio clwstwr, system echdynnu a gofynion teneuo
- goblygiadau tirwedd, y tymor, y tywydd a rhywogaethau
- effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Ystyriaethau wrth asesu cyfaint y coed sy’n sefyll:
- dwysedd teneuo
- cnwd teneuo
- llain enghreifftiol
- bylchau’r rhesel
- lled y rhesel
- cynnyrch
- mat tocion
- dosbarthiad perygl difrod i goed gan wynt
- dulliau gweithio
- systemau coedwrol
- rhywogaethau’r coed
- dull echdynnu
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arwynebedd gwaelodol coeden unigol yw arwynebedd trawstoriadol y goeden ar uchder y frest
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. Llawlyfr Mesur y Comisiwn Coedwigaeth)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Manylebau cynhyrchion e.e. pyst ffens, polion telegraff
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Mae gweithdrefn y tariff yn cynnwys y tri cham sylfaenol wrth amcangyfrif cyfaint clwstwr o goed
Mae tariffau yn gyfres o dablau cyfaint “lleol” wedi’u llunio ymlaen llaw