Rhagweld cynhyrchu pren a chynhyrchion eraill a llunio cynlluniau cynhyrchu

URN: LANTw36
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i ragweld cynhyrchu pren a chynhyrchion eraill a llunio cynlluniau cynhyrchu. Bydd hyn yn cynnwys asesu cnwd tebygol pren a chynhyrchion eraill a chyflwyno’r rhain mewn cynlluniau cynhyrchu tymor byr, canolig a hir.

Bydd angen i chi gymryd mesuriadau priodol a chymhwyso technegau mesur coedwig a choetir, tablau dosbarthiadau cnwd a modelau cnwd i gynhyrchion pren a chynhyrchion nad ydynt yn bren.

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol wrth gyflawni’r gwaith hwn.

Mae’r safon hon i’r rhai sy’n gyfrifol am lunio cynlluniau cynhyrchu ar gyfer pren a chynhyrchion eraill.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
  3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  5. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  6. asesu’r cnwd cynaliadwy ar sail stocrestr y coetir neu’r goedwig
  7. gosod y cylchred teneuo a’r dwysedd i gyflawni cnwd cynaliadwy mewn ffordd gost effeithiol a choedwrol ymarferol
  8. penderfynu ar fanylebau’r pren a’r cynhyrchion eraill sydd i’w cynhyrchu
  9. rhagweld cynhyrchu pren a chynhyrchion eraill yn gyson â’r data asesu sydd ar gael
  10. llunio cynlluniau cynhyrchu ar gyfer pren a chynhyrchion eraill, yn unol â pholisïau sefydliadol
  11. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
  12. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud
  3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  4. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  5. dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE)
  6. sut i nodi rhywogaethau coed coedwig a choetir
  7. sut i ddefnyddio technegau mesur coedwig a choetir
  8. sut i asesu risg y bydd gwynt yn difrodi coed a’r offer a’r technegau sydd ar gael at y diben hwn
  9. sut i fesur pren sy’n sefyll
  10. sut i asesu gofynion coedwrol y cnwd
  11. sut i ddadansoddi ffyrdd cost effeithiol o gyflawni cnwd cynaliadwy ac effeithiau cyfuniadau o rywogaethau ar gnydau
  12. dulliau a modelau nodi cnydau cynaliadwy
  13. dewis model cnwd
  14. egwyddorion coetir wedi’i adfywio’n naturiol
  15. y ffactorau sy’n effeithio ar y penderfyniad i deneuo ai peidio ac effeithiau tan-deneuo/gor-deneuo, teneuo hwyr neu deneuo cynnar ar gnydau
  16. y ffactorau sy’n effeithio ar hyd y cylchdro
  17. plâu a chlefydau a sut gallant effeithio ar iechyd coed
  18. y cynhyrchion a’r marchnadoedd sydd ar gael
  19. sut i lunio cynlluniau cynhyrchu gyda rhagolygon realistig ar gyfer cynhyrchu pren a chynhyrchion eraill
  20. manylebau cynhyrchion, gan gynnwys ansawdd, yr hyd mwyaf a lleiaf, a’r diamedrau mwyaf a lleiaf
  21. sut i gynllunio ar gyfer cyfnodau cynhyrchu prysur a thawel
  22. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
  23. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
  24. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod

Asesu cnydau tebygol:

  • pren
  • cynhyrchion eraill

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • ffotograffau/delweddau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. Llawlyfr Mesur y Comisiwn Coedwigaeth)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer

Gallai cynhyrchion eraill gynnwys unrhyw rai o’r canlynol: hadau a chonau, mwsogl, deiliant, gweddillion cynaeafu – mewn planhigfeydd coedwig, gall y cynhyrchion eraill gynnwys amrywiaeth o goed ifanc sydd wedi cyrraedd camau twf amrywiol, bod â gwreiddiau noeth, neu fod mewn cynwysyddion, ac ati

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Difrodi coed gan wynt:
Coeden sy’n torri mewn gwynt cryf, gyda’r gwreiddiau allanol yn torri, fel bod y goeden yn cael ei dadwreiddio. Mae tri phrif ffordd o ddifrodi coed gan wynt.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw69

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Prysgoedio

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coedwig; coetir; rhagweld; cynhyrchu; pren