Arolygu coed a llystyfiant gerllaw cyfleustodau uwchlaw’r ddaear i nodi’r rheolaeth sy’n ofynnol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arolygu coed a llystyfiant gerllaw cyfleustodau uwchlaw'r ddaear i nodi'r rheolaeth sy'n ofynnol, h.y edrych ar waith coed sy'n gysylltiedig â neu'n agos at wasanaethau a chyfleustodau, yn cynnwys cyfleustodau uwchben.
Mae'r safon yn cynnwys rheolaeth wedi ei chynllunio o goed a llystyfiant o amgylch y cyfleustod er mwyn iddo allu parhau i weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys paratoi ac arolygu safleoedd gwaith yn ddiogel, yn cynnwys cynllunio'r gwaith sy'n ofynnol gan roi ystyriaeth ddyledus i'r peryglon cysylltiedig. Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn fod yn ymwybodol o'r peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith cyfleustod, yn arbennig peryglon trydanol.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen i chi fod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad o beryglon a risg ar y safle, cyn gwneud yr arolwg llystyfiant, a gweithredu mesurau rheoli addas yn unol â deddfwriaeth a safonau perthnasol y diwydiant
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol priodol (PPE)
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- sicrhau bod yr arwyddion a'r rheolyddion gofynnol yn eu lle
- sicrhau bod unrhyw weithdrefnau ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun wedi eu sefydlu
- arolygu'r safle, gan nodi'r rheolaeth angenrheidiol o goed a llystyfiant ar gyfer parhau i ddefnyddio'r cyfleustod uwchlaw'r ddaear yn ddiogel ac yn effeithiol
- nodi'r mathau o offer sy'n benodol i gyfleustod a'r parthau diogelwch cysylltiedig sy'n debygol o ymyrryd â'r gweithrediadau
- nodi'r offer arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer gweithrediadau rheoli coed a llystyfiant gerllaw'r cyfleustodau a'r strwythurau uwchlaw'r ddaear
- nodi'r adnoddau sy'n ofynnol i barhau i ddefnyddio'r cyfleustod yn ddiogel ac yn effeithiol, yn unol â deddfwriaeth berthnasol a safonau'r diwydiant
- nodi'n glir ble mae'n rhaid defnyddio gweithwyr arbenigol, a ddefnyddir gan y cyfleustod
- nodi a chofnodi manylion yr arolwg sy'n briodol i'r cyfleustod ac ar gyfer y defnydd a fwriadwyd ar gyfer y data a gofnodwyd
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- lefel y risg a gyflwynir gan goed a llystyfiant naill ai o'i gyflwr biofecanyddol a/neu agosatrwydd at y cyfleustod uwchlaw'r ddaear
- sut i werthuso'r goeden am beryglon a goblygiadau'r peryglon a nodir
- effaith debygol gwaith arfaethedig y cyfleustod ar goed a llystyfiant
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- ymddygiad esthetig gorau'r goeden neu'r llystyfiant wrth wneud gwaith gerllaw cyfleustodau a strwythurau
- diben dogfennau diogelwch penodol i gyfleustod
- goblygiadau rhywogaethau gwahanol o goed, eu cyflwr a'r adeg o'r flwyddyn, wrth gynllunio gweithrediadau tocio a sut bydd y rhain yn effeithio ar y gwaith
- egwyddorion bioleg coed a goblygiadau dwysedd lleihau a theneuo'r corun i rywogaethau gwahanol o goed
- pwysigrwydd nodi parthau gwaith diogel a llwybrau planhigion, offer a chyfarpar yn briodol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol perthnasol
Cwmpas/ystod
Gweithio/arolygu yn y sefyllfaoedd canlynol:
- safleoedd â choed gerllaw cyfleustodau
- coed gerllaw strwythurau cyfleustodau