Llunio stocrestr coedwig neu goetir, a’i chynnal

URN: LANTw35
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i lunio stocrestr coedwig neu goetir, a’i chynnal.

Mae casglu data stocrestr coed yn cynnwys casglu data ar gyfer poblogaeth o goed ar raddfa fawr, yn gysylltiedig â chofnodi agweddau ar orchudd y coed e.e. gorchudd, dosbarthiad, math o rywogaeth, at ddiben asesiadau asedau, gwerth ecolegol, atafaelu carbon, gweithrediadau coedwigaeth, a gall gynnwys iechyd cyffredinol. Yn gyffredin, defnyddir gwybodaeth stocrestr i lunio cynlluniau strategol neu gynlluniau rheoli ar gyfer coedwig, coetir neu gyd-destun coedyddiaeth hamdden.

Mae’n cynnwys casglu data’n uniongyrchol o’r goedwig a’r coetir. Dylech allu adnabod cnydau sy’n tyfu, eu meintoli a’u cofnodi mewn stocrestr ffurfiol.

Bydd angen i chi allu cymryd mesuriadau priodol a chymhwyso technegau mesur coedwigoedd a choetiroedd.

Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.

Mae’r safon hon i’r rhai sy’n gyfrifol am lunio stocrestr coedwig neu goetir, a’i chynnal.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
  3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  5. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  6. diffinio ac isrannu’r ardal o dan reolaeth, i nodi unedau rhesymegol er mwyn llunio stocrestr
  7. nodi dosbarthiadau coed sy’n berthnasol i’r cnwd
  8. nodi gwerth cofnodion presennol yn gysylltiedig â’r cnwd gwirioneddol
  9. penderfynu ar ddwysedd yr arolwg sy’n ofynnol er mwyn llunio stocrestr, ar sail y wybodaeth sydd ar gael
  10. defnyddio cyfarpar addas a chonfensiynau mesur y diwydiant i gwblhau’r arolwg
  11. llunio stocrestr coedwig neu goetir, a’i chynnal, yn unol â gofynion sefydliadol
  12. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
  13. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n berthnasol i’ch maes gwaith
  3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun, lle bo’n briodol
  4. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  5. dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE)
  6. sut i ddefnyddio map a chwmpawd mewn amgylchedd coedwig
  7. confensiynau’r diwydiant wrth benderfynu ar feintiau lleiniau
  8. sut i ddefnyddio technegau a chyfarpar mesur coedwig a choetir, gan gynnwys clinomedr a thâp amgylchfesur/caliperau
  9. defnyddio unedau GPS â llaw, caliperau digidol a thechnoleg arall sydd ar gael
  10. sut i asesu arwynebedd gwaelodol
  11. y wybodaeth sydd i’w chrynhoi mewn stocrestr coedwig neu goetir
  12. defnyddio ffotograffiaeth o’r awyr wrth lunio stocrestr coedwig neu goetir
  13. gwahanol dechnegau cynnal arolwg, fel defnyddio System Gwybodaeth Fyd-eang (GIS) a mapiau
  14. sut i asesu risg y bydd gwynt yn difrodi coed a’r offer a’r technegau sydd ar gael at y diben hwn
  15. sut i nodi rhywogaethau coed coedwig a choetir
  16. sut i nodi eitemau o ddiddordeb arbennig
  17. y dulliau o gofnodi stocrestr ffurfiol
  18. y rhesymau dros wneud stocrestrau a sut maen nhw’n cael eu defnyddio
  19. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau hyn
  20. pwysigrwydd gwirio bod gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd
  21. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod

Llunio a chynnal stocrestr sy’n disgrifio:

  • dosbarthiad ardal yn ôl rhywogaeth
  • dosbarth oedran
  • dosbarth stocio a chnwd
  • y math o ddefnydd ar y tir
  • unrhyw systemau dewisol ar gyfer cnwd cynaliadwy parhaus

Llunio a chynnal stocrestr sy’n bodloni’r fanyleb ganlynol:

  • y cnydau i’w cofnodi
  • fformat y stocrestr
  • y cywirdeb a’r eglurder y mae’r arolwg a stocrestr y goedwig a’r coetir yn gofyn amdanynt
  • diweddaru mapiau stoc
  • y gofynion amgylcheddol a chadwraeth sy’n cael eu gosod gan eich sefydliad a deddfwriaeth
  • cofnodi eitemau o ddiddordeb penodol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arwynebedd gwaelodol coeden unigol yw arwynebedd trawstoriadol y goeden ar uchder y frest

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • ffotograffau/delweddau (gan gynnwys ffotograffiaeth o’r awyr)
  • GIS a mapiau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Difrodi coed gan wynt:
Coeden sy’n torri mewn gwynt cryf, gyda’r gwreiddiau allanol yn torri, fel bod y goeden yn cael ei dadwreiddio. Mae tri phrif ffordd o ddifrodi coed gan wynt.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw68

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Prysgoedio

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

stocrestr; coetir; coedwig