Goruchwylio gweithrediadau coedyddiaeth yn agos at gyfleustodau uwchlaw’r ddaear
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio gweithrediadau coedyddiaeth yn agos at gyfleustodau uwchlaw'r ddaear, h.y. gwaith sy'n gysylltiedig â, neu'n agos at, wasanaethau a chyfleustodau yn cynnwys cyfleustodau uwchben.
Mae'r safon yn cynnwys goruchwylio rheolaeth wedi ei chynllunio o goed a llystyfiant o amgylch y cyfleustod uwchlaw'r ddaear er mwyn iddo barhau i weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys paratoi a gweithredu'r gwaith gofynnol yn ddiogel gan roi ystyriaeth ddyledus i'r peryglon cysylltiedig. Mae'n rhaid i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r alwedigaeth hon fod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â gwaith y cyfleustod, yn arbennig peryglon trydanol.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad perygl a risg o'r safle cyn gweithrediadau coedyddiaeth yn agos at gyfleustodau uwchlaw'r ddaear
- gweithredu'r mesurau rheoli priodol yn unol â safonau deddfwriaethol, diwydiant a phenodol i gyfleustodau priodol gan sicrhau defnydd cywir o offer a chyfarpar amddiffynnol personol (PPE)
- sicrhau bod yr arwyddion a'r rheolyddion gwarchod gofynnol yn eu lle
- adnabod cyfarpar a pharthau diogelwch sy'n benodol i gyfleustod, sydd â'r potensial i ymyrryd â gweithrediadau
- rheoli'r defnydd o offer arbenigol sydd yn addas ar gyfer y gweithrediad coedyddiaeth yn agos at gyfleustodau uwchlaw'r ddaear ac unrhyw strwythurau cyfleustodau
- rheoli'r gwaith cynnal a chadw a gweithrediad offer arbenigol yn unol â'r paramedrau a nodir gan y cynhyrchydd a'r cyfleustod
- goruchwylio'r gweithrediad coedyddiaeth i sicrhau bod llai o lystyfiant yn effeithio ar gyfleustodau uwchlaw'r ddaear
- sicrhau bod y dulliau gwaith yn unol â'r peryglon a aseswyd
- goruchwylio'r gwaith i sicrhau bod y cyfarwyddiadau gwaith yn cael eu dilyn
- sefydlu cynlluniau brys wrth gefn
- atal dros dro, atal neu adolygu gwaith, fel y bo'n briodol, er mwyn cynnal eich diogelwch eich hun ac eraill
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i baratoi cynlluniau a gweithdrefnau wrth gefn sy'n berthnasol i'r safle a pham y mae angen y rhain
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- lefel y risg a gyflwynir gan goed a llystyfiant naill ai drwy eu cyflwr biofecanyddol a/neu eu hagosatrwydd at y cyfleustod uwchlaw'r ddaear
- sut i werthuso'r goeden am beryglon a goblygiadau'r peryglon a nodir
- effaith debygol gwaith arfaethedig y cyfleustod uwchlaw'r ddaear ar goed a llystyfiant
- y defnydd o offer diogelwch priodol sy'n benodol i'r cyfleustod perthnasol a'r offer ar gyfer gweithredu
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- y peryglon a'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â gweithio'n agos at y cyfleustod uwchlaw'r ddaear, yn cynnwys unrhyw strwythurau cysylltiedig a'r pellterau diogelwch a'r defnydd o offer
- ymddangosiad esthetig gorau'r coed neu'r llystyfiant wrth wneud gwaith gerllaw'r cyfleustodau neu strwythurau'r cyfleustod
- y gofynion deddfwriaethol perthnasol a diben dogfennau diogelwch penodol i gyfleustod
- y goblygiadau i rywogaethau gwahanol o goed, eu cyflwr a'r amser o'r flwyddyn wrth gynllunio gweithrediadau tocio a sut y bydd y rhain yn effeithio ar y gwaith
- egwyddorion bioleg coed a goblygiadau dwysedd lleihau a theneuo corun ar rywogaethau gwahanol o goed
- sut i ddatrys gwrthdaro rhwng cadw estheteg a bodloni gofynion perchennog y cyfleustod neu ddeiliad y drwydded
- pwysigrwydd nodi, diffinio a chynnal parthau gwaith diogel a llwybro planhigion, offer a chyfarpar yn briodol
- eich cyfrifoldebau yn goruchwylio'r gwaith
- pwysigrwydd adolygu'r gwaith yn rheolaidd a pham y gall fod angen ei atal dros dro neu ei atal
- effaith bosibl y gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol perthnasol
Cwmpas/ystod
Gweithio yn y sefyllfaoedd canlynol:
- safleoedd gyda choed gerllaw cyfleustodau
- coed gyferbyn â strwythurau cyfleustodau