Gwneud gwaith rheoli coed a llystyfiant yn agos at gyfleustodau uwchben y ddaear
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud gwaith rheoli coed a llystyfiant yn agos at gyfleustodau uwchben y ddaear h.y. gwaith sy'n gysylltiedig â, neu'n agos at, wasanaethau a chyfleustodau yn cynnwys cyfleustodau uwchben.
Mae'r safon yn cynnwys gwaith rheoli coed a llystyfiant wedi ei gynllunio o amgylch y cyfleustod er mwyn iddo allu gweithredu'n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys paratoi a gweithredu'r gwaith gofynnol yn ddiogel gan roi sylw dyledus i'r peryglon cysylltiedig. Mae'n rhaid i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd hwn fod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gwaith cyfleustodau, yn arbennig peryglon trydanol.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio offer arbenigol addas ar gyfer gwneud y gwaith rheoli coed a llystyfiant yn agos at gyfleustodau uwchben y ddaear ac unrhyw strwythurau cyfleustodau eraill
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- sicrhau bod yr arwyddion a'r rheolyddion gwarchod gofynnol yn eu lle
- ail-ddilysu unrhyw asesiadau risg a chyfarwyddiadau gwaith wedi eu paratoi ymlaen llaw
- cynnal a gweithredu offer arbenigol yn unol â pharamedrau penodedig y cynhyrchydd a'r cyfleustod
- gwneud gwaith rheoli coed a llystyfiant yn unol â'r fanyleb er mwyn sicrhau lleihau eu heffaith ar gyfleustodau uwchben y ddaear
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cadw cofnodion i fodloni gofynion cyfleustodau a deddfwriaethol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- lefel y risg a gyflwynir gan goed a llystyfiant naill ai o'u cyflwr biofecanyddol a/neu eu hagosatrwydd at y cyfleustod/strwythur cyfleustod uwchben y ddaear
- sut i werthuso'r goeden am beryglon a goblygiadau'r peryglon a nodwyd
- effaith debygol gwaith cyfleustodau uwchben y ddaear ar goed a llystyfiant
- y defnydd o offer diogelwch priodol sy'n benodol i'r cyfleustod perthnasol a'r offer ar gyfer y gweithrediad
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- y peryglon a'r risgiau posibl sydd yn gysylltiedig â gweithio'n agos at y cyfleustod /strwythur cyfleustod, yn cynnwys pellterau diogelwch a defnydd o offer
- ymddangosiad esthetig gorau'r goeden neu'r llystyfiant wrth wneud gwaith yn agos at gyfleustod/strwythurau cyfleustod uwchben y ddaear
- diben dogfennau diogelwch sy'n benodol i gyfleustodau
- y goblygiadau ar rywogaethau gwahanol o goed, eu cyflwr a'r adeg o'r flwyddyn pan fydd gweithrediadau tocio'n cael eu cynllunio a sut bydd y rhain yn effeithio ar y gwaith
- egwyddorion sylfaenol bioleg coed a goblygiadau lleihau corun a dwysedd teneuo ar rywogaethau gwahanol o goed
- sut i gydbwyso cadw estheteg â gofynion perchennog y cyfleustod neu ddeiliad y drwydded
- pwysigrwydd adnabod, diffinio a chynnal parthau gwaith diogel a llwybro planhigion, offer a chyfarpar yn briodol
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
Cwmpas/ystod
Gweithio yn y sefyllfaoedd canlynol:
- safleoedd â choed gerllaw cyfleustodau
- coed gerllaw strwythurau cyfleustodau