Datblygu cynllun rheoli coetir

URN: LANTw34
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i ddatblygu cynllun rheoli coetir.

I ddatblygu cynllun rheoli coetir, bydd angen nodi nodweddion ac agweddau allweddol ar y coetir, i benderfynu ar yr amcanion rheoli allweddol sy’n ofynnol a chynllunio sut bydd y rhain yn cael eu cyflawni a’u monitro.

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  2. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle wrth gynnal arolwg o safle yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  3. gwirio unrhyw ddynodiadau neu ofynion statudol sydd ar waith a allai atal neu osod amodau ar y gwaith i'w gyflawni a chysylltu â’r corff statudol perthnasol i gael cydsyniad ffurfiol
  4. gwirio a oes angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a sut i wneud cais amdano
  5. cynnal arolwg o’r safle i ddarparu gwybodaeth allweddol i gynllun rheoli’r coetir
  6. darparu cyfeirnod grid a mesur a chofnodi maint y safle gan ddefnyddio’r cyfarpar perthnasol a ffynonellau gwybodaeth
  7. nodi llwybrau mynediad i’r coetir, gan ystyried eu haddasrwydd ar gyfer echdynnu pren a’r camau sy’n ofynnol i’w gwella
  8. nodi a chofnodi strwythur ac amrywiaeth bresennol y coetir
  9. nodi a chofnodi nodweddion arwyddocaol
  10. nodi a chofnodi unrhyw risgiau neu broblemau
  11. nodi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol
  12. cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion ar gyfer y coetir fydd yn cael ei reoli, gan gynnwys amcanion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd
  13. penderfynu ar strategaeth reoli hirdymor wedi’i llunio i gyflawni/cynnal strwythur amrywiol o gynefin, rhywogaethau ac oedrannau coed sy’n briodol i raddfa a chyd-destun y coetir
  14. cadarnhau bod y strategaeth yn mynd i’r afael â’r amcanion a sut mae buddiannau a phroblemau perthnasol wedi cael eu hystyried
  15. datblygu cynlluniau gweithredol ar gyfer rheoli coetir yn gynaliadwy, gan gynnwys cwympo coed ac ailstocio
  16. cynhyrchu costiadau i’r cynllun, gan gynnwys costau cychwynnol a chostau gweithredu parhaus, ffynonellau incwm a ffynonellau cyllid posibl
  17. penderfynu sut bydd effeithiolrwydd cynllun rheoli’r coetir yn cael ei fonitro a pha mor aml
  18. cyflwyno cynllun rheoli’r coetir a dogfennaeth ategol yn y fformat priodol i’r awdurdod perthnasol eu cymeradwyo
  19. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â gwneud arolwg o’r safle, a’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol – gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun, lle bo’n briodol
  2. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  3. pryd bydd angen cynllun rheoli coetir a’r broses i’w dilyn
  4. pryd bydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol
  5. sut i wirio a oes unrhyw ddynodiadau neu ofynion statudol ar waith a’r gofynion am gysylltu â’r corff statudol
  6. y cyfrifoldebau cyfreithiol yn gysylltiedig â rhywogaethau coetir gwarchodedig, rheoli’r coetir a mynediad i’r coetir
  7. ble i gael gwybodaeth am lwybrau mynediad presennol i’r safle a llwybrau mynediad arfaethedig
  8. amrywiaeth o dechnegau cynnal arolwg a dulliau casglu data a sut i’w defnyddio, gan gynnwys ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd
  9. sut i ddarllen mapiau’r Arolwg Ordnans, defnyddio cyfarpar GPS a mesur ardaloedd o fapiau a maint y safle o’r tir
  10. pwysigrwydd cael amrywiaeth o rywogaethau coed a gwneud stocrestr o goed presennol
  11. sut i nodi a choladu gwybodaeth am nodweddion arwyddocaol ac ystyried eu heffaith
  12. sut i nodi a choladu gwybodaeth am risgiau a phroblemau ac ystyried eu heffaith
  13. pwysigrwydd nodi ac ymgynghori â’r holl randdeiliaid a sut gellir gwneud hyn
  14. diben, cwmpas ac amcanion y coetir sydd i’w reoli
  15. gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd rheoli coetir yn gynaliadwy
  16. sut i benderfynu ar strategaeth hirdymor ar gyfer y coetir a beth sydd angen ei gynnwys
  17. sut i gynnwys agweddau allweddol mewn cynlluniau rheoli coetir gweithredol
  18. pwysigrwydd monitro llwyddiant cynllun rheoli’r coetir a sut i benderfynu ar y dull mwyaf effeithiol ar gyfer hyn
  19. y weithdrefn ar gyfer cyflwyno cynllun rheoli’r coetir i’w gymeradwyo
  20. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Risgiau neu broblemau:

  • presenoldeb ceirw neu wiwerod llwyd
  • presenoldeb da byw neu famaliaid eraill
  • iechyd cyffredinol planhigion
  • y potensial i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • unrhyw fygythiadau neu beryglon eraill

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Nodweddion arwyddocaol:

  • priddoedd, draenio
  • ffynonellau dŵr
  • agweddau hanesyddol, gan gynnwys defnydd yn y gorffennol
  • fflora ar lawr, rhywogaethau trechol ac unrhyw rywogaethau a warchodir neu rywogaethau goresgynnol
  • ffawna, yn enwedig unrhyw rywogaethau prin neu nodedig
  • nodweddion archaeolegol
  • unrhyw nodweddion arwyddocaol eraill
  • gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y safle

Gallai rhanddeiliaid gynnwys:

  • cymdogion
  • awdurdod lleol
  • cyrff statudol
  • defnyddwyr hamdden y safle
  • partïon eraill â budd

Strwythur ac amrywiaeth y coetir:

  • math o gynefin
  • oedran, rhywogaeth, dwysedd, tarddiad a dosbarthiad coed presennol
  • stocio, cyfansoddiad a chyflwr unrhyw adfywio naturiol
  • mannau agored

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw63

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Prysgoedio

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coetir; coed; rhywogaethau