Gosod a chynnal cymhorthion strwythurol ar gyfer coed

URN: LANTw33
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a chynnal cymhorthion strwythurol ar gyfer coed. Bydd y cymhorthion hyn yn cynorthwyo sefydlogrwydd coed. Mae angori neu gefnogi coeden yn golygu gosod, yn yr amgylchiadau priodol, system hyblyg neu gadarn i mewn i'r goeden i gefnogi ei boncyff a neu ganghennau felly'n lleihau'r perygl o fethiant.

Gall mynediad i gorun y goeden fod naill ai trwy dechneg Llwyfan Gwaith Uchel Symudol (MEWP) neu raff a harnais.

Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. adnabod coed lle byddai cymorth strwythurol o fudd
  5. dewis y system cymorth strwythurol mwyaf addas ar gyfer y sefyllfa a lles y goeden
  6. dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
  7. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  8. cyfrifo'r llwyth disgwyliedig a dewis cydrannau addas o fewn eu ffactorau dyluniad/diogelwch
  9. pennu safle priodol gosod yn unol â'r sefyllfa
  10. dewis dull mynediad priodol a chynllun achub ar gyfer gweithio ar uchder yn ddiogel
  11. cyfleu'r cynllun gwaith i'r criw ar y ddaear
  12. gosod y system cymorth strwythurol dethol yn y goeden, yn dilyn canllawiau cyfresol Safon Diogelwch Prydeinig a lleihau niwed i'r goeden a'r amgylchedd
  13. adrodd ar y system cymorth strwythurol a ddefnyddir a gweithredu cyfundrefn arolygu ar gyfer cynnal cymhorthion strwythurol ar gyfer coed
  14. sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
  15. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
  5. sut i wybod pan fydd cymorth strwythurol ar gyfer coed yn briodol
  6. y mathau gwahanol o systemau cymorth strwythurol a'u cymhwysiad
  7. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
  8. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  9. sut i wybod y safle cywir ar gyfer gosod system cymorth strwythurol a pham y mae hyn yn bwysig
  10. sut i gyfrifo'r llwyth a pharu'r deunyddiau a ddefnyddir â'r llwyth y disgwylir ei roi arnynt
  11. sut i gymhwyso unrhyw ofynion tocio i ategu'r system cymorth strwythurol
  12. sut i adnabod rhywogaethau coed a'u nodweddion mewn perthynas â dethol a gosod y system cymorth strwythurol
  13. egwyddorion sylfaenol bioleg coed a sut maent yn effeithio ar eich gwaith
  14. sut i osod pob system strwythurol yn ofalus ac yn gywir
  15. y gofynion cynnal a chyfnod cynnal pob math o system cymorth strwythurol
  16. goblygiadau ac atebolrwydd gosod system gymorth mewn strwythur deinamig
  17. goblygiadau deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a Safonau Diogelwch Prydeinig cyfredol ar gyfer eich gwaith
  18. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

​Sut i osod y mathau canlynol o systemau cymorth strwythurol:

  • ffrâm ffon – ffon i sefydlogi fforch wan NEU bontio ceudod NEU sefydlogi dwy gangen sy'n rhwbio
  • ffrâm hyblyg ymledol – cebl i mewn i gorun y goeden
  • ffrâm hyblyg nad yw'n ymledol yn ymgorffori cysylltiadau gwregys i brop corun y goeden i atal symudiad cangen drom neu hir am i lawr o fewn ychydig fetrau o'r ddaear
  • propio

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw33

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

strwythurol; coed; cymorth; pwysau; llwyth