Torri coed o’r awyr gan ddefnyddio craen
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thorri coed o'r awyr gan ddefnyddio craen ar gyfer tynnu adrannau o goed. Gwneir y gwaith gan weithredwyr â phrofiad helaeth o ddringo a chael mynediad i goed.
Bydd angen i chi wneud gwerthusiad o berygl coeden ac asesiad "gweithio ar uchder" cyn dechrau'r gwaith hwn. Byddwch yn gwneud gweithrediadau torri gan ddefnyddio technegau mynediad coedyddiaeth cydnabyddedig. Byddwch yn cael mynediad gan ddefnyddio rhaff a harnais.
Mae'r safon hon yn cynnwys tynnu un aelod neu rannau o ganopi coeden hyd at dynnu coed yn gyfan gwbl gan ddefnyddio craen.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- archwilio offer mynediad i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas i'w ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a deddfwriaeth berthnasol
- dewis a defnyddio dulliau mynediad a gosod priodol i'r peryglon a aseswyd a'r datganiad dull
- dewis pwynt angori priodol i roi'r offer mynediad fel nad yw'r pwynt angori'n cael ei beryglu gan y goeden nac unrhyw ran o'r gwaith sy'n cael ei wneud
- cyfrifo'r llwythau disgwyliedig y mae angen i'r rigio eu cymryd, o fewn ei ddyluniad/ffactorau diogelwch, a dewis cydrannau addas i ffurfio'r system rigio
- asesu safle'r craen i hwyluso symud adrannau o'r goeden
- cytuno gyda gweithredwr y craen ar safle'r craen ar gyfer y gwaith sydd i gael ei wneud
- asesu cyfeiriad tebygol y colyn a chysylltu slingiau yn unol â hynny
- asesu pwysau'r darnau i gael eu tynnu a nodi'r parth gollwng dymunol
- dewis safle gweithio priodol a thorri coed o'r awyr trwy weithredu'r toriad priodol
- cyfathrebu gyda gweithredwr y craen a staff ar y ddaear parthed cynnydd y gweithrediadau
- defnyddio llinell dynnu/tagio i gynorthwyo'r gwaith o dynnu adrannau er mwyn diogelu eich hun, yr isadeiledd a thargedau eraill
- ymdrin yn briodol â'r deilliannau
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i werthuso'r goeden am beryglon a goblygiadau'r peryglon a nodwyd
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- sut i adnabod rhywogaethau coed a sut bydd rhywogaethau a chyflwr y coed yn effeithio ar eich gwaith
- sut i ddewis pwyntiau angori priodol a safle'r offer mynediad fel nad yw'r pwynt angori'n cael ei beryglu gan y gwaith torri coed o'r awyr sy'n cael ei wneud
- pwysigrwydd toriadau cywir a phriodol wrth symud adrannau o goed ac effaith y toriadau ar yr adran sy'n cael ei symud
- manteision ac anfanteision yr offer a'r cyfarpar sydd ar gael i gyflawni'r gweithrediadau torri coed o'r awyr
- sut i gyfathrebu gyda gweithredwr y craen a'r staff ar y ddaear
- sut i osod a defnyddio llinell dynnu/tagio i gynorthwyo'r gwaith o symud yr adrannau.
- manteision ac anfanteision symud yr adrannau o'r coed gan ddefnyddio craen
- sut i gyfrifo'r llwythau disgwyliedig wrth symud adrannau o goeden gan ddefnyddio craen
- sut i asesu cyfeiriad tebygol y colyn
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol