Cynnal gwaith rigio coed o’r awyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gwaith rigio coed o'r awyr. Mae'n cynnwys symud adrannau o gorun coeden o dan reolaeth offer rigio a chodi gyda rhaff. Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan weithredwr â phrofiad helaeth o goedyddiaeth a gweithrediadau llif gadwyn mewn canopi.
Fel rhan o'r safon hon, byddwch yn cynnal asesiad o beryglon coeden ac asesiad "gweithio ar uchder" o bennu a yw'n ddiogel gwneud y gwaith ac i bennu'r dull mynediad mwyaf diogel ac effeithiol.
Mae'n rhaid i'r gwaith awyr hwn gael ei gynorthwyo gan weithiwr ar y ddaear â phrofiad sylweddol o waith coed o'r awyr a thechnegau rigio.
Mae'r safon hon yn cynnwys defnyddio rigio ar gyfer symud adrannau bach o goed. Mae hyn mewn perthynas â thocio, lle gallai'r targedau islaw gyflwyno perygl sylweddol, ac mae'n cynnwys dileu rhan o goed/coed cyfan, lle nad yw targedau'n galluogi technegau syrthio rhydd/taflu â llaw.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig, yn cynnwys gweithio ar uchder
- cynllunio a gweithredu cynllun achub a diweddaru hwn yn ystod y gwaith
- dewis a gweithredu dulliau gweithio priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- bodloni'r gofynion deddfwriaethol a sefydliadol amgylcheddol a nodwyd mewn perthynas â rigio coed o'r awyr
- dewis a defnyddio dulliau mynediad a gosod sy'n briodol i'r peryglon a aseswyd a'r datganiad dull
- archwilio offer mynediad er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas i'w ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a'r ddeddfwriaeth berthnasol
- cyfrifo'r llwythau disgwyliedig y bydd angen i'r rigio eu cymryd, o fewn ei ffactorau dylunio/diogelwch a dewis cydrannau addas i ffurfio'r system rigio
- asesu'r safle a dewis pwyntiau angori ar gyfer y cydrannau rigio gan ystyried y llwyth disgwyliedig, y criw ar y ddaear, pwyntiau angori eraill, safle'r offer mynediad, y parth gollwng a gynlluniwyd a'r ardal brosesu
- tynnu adrannau o'r goeden y gellir eu gollwng gan ddefnyddio toriadau addas, gan leihau llwythau sioc yn y system rigio
- cyfathrebu â'r staff ar y ddaear mewn perthynas ag ymddangosiad a chynnydd y gweithrediad
- ymdrin yn briodol â'r deilliannau
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- y mesurau rheoli i'w gweithredu ar gyfer y peryglon cysylltiedig, yn cynnwys gweithio ar uchder
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- sut i werthuso'r goeden am beryglon a goblygiadau'r peryglon a nodir
- sut i gyfrifo'r llwythau disgwyliedig sy'n cael eu creu gan y rigio
- sut i ddewis cydrannau addas i ffurfio system rigio sy'n briodol ar gyfer y llwyth disgwyliedig
- sut i ddewis pwyntiau angori addas ar gyfer y llwythau disgwyliedig heb beryglu safle mynediad y gweithwyr.
- sut i ddewis y safle mynediad addas a chynllunio'r parthau gollwng
- sut i gynllunio a gosod y safle rigio ar y ddaear i ddiogelu criw'r ddaear, cynorthwyo llif y gwaith, ymdrin â'r deilliannau a sefydlu'r parthau gollwng dymunol
- sut i sefydlu systemau cyfathrebu
- sut i dynnu adrannau o goed y gellir eu hiselhau gan ddefnyddio toriadau addas, gan leihau llwythau sioc i'r system rigio
- pryd byddai angen rigio coed a chyfyngiadau hyn
- sut, pryd a ble i ddefnyddio systemau rigio cyfansawdd neu gymhleth
- sut i osod a defnyddio llinell dynnu/tagio i gynorthwyo adrannau i gael eu tynnu.
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Systemau rigio cyfansawdd/cymhleth:
- llinell dreigl
- trosglwyddo llwyth
- cydbwysedd
- crud
- coes corun
- llinell gyflymder/llinell awyr
- pwyntiau angori ffug
- technegau craen a chodi
- symud gyda chraen