Torri coed o’r awyr gan ddefnyddio technegau syrthio’n rhydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thorri coed o’r awyr gan ddefnyddio technegau syrthio’n rhydd. Mae’n cynnwys tynnu aelod unigol neu rannau o ganopi coeden yn ogystal â symud coed yn gyfan gwbl heb ddefnyddio offer rigio. Mae hefyd yn ymwneud â thynnu adrannau o goed o’r corun gan ddefnyddio technegau syrthio’n rhydd neu daflu â llaw.
Bydd angen i chi wneud gwerthusiad o beryglon y goeden a gwneud asesiad “gweithio ar uchder” cyn dechrau’r gwaith hwn. Byddwch yn gwneud gweithrediadau torri gan ddefnyddio technegau mynediad priodol.
Byddwch yn cael mynediad ac yn cynnal gweithrediadau torri yn unol â’r asesiad uchod o Lwyfan Gwaith Uchel Symudol (MEWP) neu o raff a harnais.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Mae’r safon hon ond yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gymwys yn dringo coed a/neu yn defnyddio MEWP
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- cynnal gwerthusiad o beryglon y goeden ac asesiad "gweithio ar uchder" cyn dechrau'r gwaith
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis a defnyddio dulliau mynediad a gosod priodol i'r peryglon a aseswyd a'r datganiad dull
- dewis pwynt angori priodol ar gyfer yr offer mynediad fel nad yw'r pwynt/safle angori yn cael ei beryglu gan y goeden nac unrhyw ran o'r gwaith sy'n cael ei wneud
- archwilio'r offer mynediad er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas i'w ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a'r ddeddfwriaeth berthnasol
- asesu maint, diamedr y pren, hyd a phwysau'r darnau i gael eu torri
- nodi'r parth gollwng dymunol ar gyfer y darnau
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol yn ddiogel ac yn effeithiol
- dewis a defnyddio'r toriad priodol
- cyfathrebu a rheoli staff ar y ddaear mewn perthynas â chynnydd y gweithrediadau
- defnyddio'r offer cysylltiedig i gynorthwyo'r gwaith o symud adrannau i mewn i'r parth gollwng dymunol er mwyn amddiffyn isadeiledd a thargedau
- ymdrin yn briodol â'r deilliannau
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- sut i ddewis a gweithredu dull gweithio priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y cynlluniau a'r gweithdrefnau brys sy'n briodol i'r safle
- sut i adnabod rhywogaethau o goed a sut fydd y rhywogaethau a chyflwr y coed yn effeithio ar eich gwaith
- sut i werthuso'r coed am beryglon a goblygiadau'r peryglon a nodwyd
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- sut i ddewis pwyntiau a safle angori priodol ar gyfer yr offer mynediad fel nad yw'r pwynt angori'n cael ei beryglu gan y gwaith sy'n cael ei wneud
- pwysigrwydd toriadau cywir a phriodol wrth symud adrannau o goed ac effaith y toriadau ar yr adran sy'n cael ei symud
- effeithiau posibl symud adrannau o goed ar y rhan o'r goeden sy'n cael ei gadael
- sut i gyfathrebu a rheoli staff ar y ddaear wrth dorri coed o'r awyr
- sut i ddefnyddio offer cysylltiedig i gynorthwyo'r gwaith o symud adrannau
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Gwneud gwaith tocio trwy ddringo neu ddefnyddio MEWP neu'r ddau:
- gostyngiadau
- codi corun
- aildocio
- teneuo
- glanhau corun