Clirio safleoedd ar gyfer plannu

URN: LANTw3
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chlirio safleoedd ar gyfer plannu.  Gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau clirio.

Mae'r dulliau clirio sy'n cael eu cynnwys yn y safon hon yn cynnwys rhai cemegol, mecanyddol ac â llaw ac maent yn ddefnyddiol ar gyfer pob gweithiwr sydd yn gysylltiedig â chlirio safleoedd.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gemegion mae angen i chi gael hyfforddiant priodol, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith
  3. dewis a sefydlu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
  4. dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol priodol (PPE) ar gyfer y gwaith
  5. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar priodol yn ddiogel ac yn effeithiol
  6. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  7. dewis dulliau clirio priodol yn unol â manylebau a chyflwr y safle
  8. clirio'r safle ar gyfer plannu yn unol â'r manylebau, gan ystyried yr adnoddau, y tywydd a chyflwr y ddaear
  9. symud yr holl wastraff a'r deunydd dros ben a'u gwaredu fel y nodir
  10. dilyn arfer da amgylcheddol fel y nodir gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
  11. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  6. pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau y mae'n rhaid eu nodi
  7. cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
  8. sut i ymdrin â rhwystrau uwchben neu ar yr arwyneb
  9. y dulliau gwahanol o glirio safleoedd ar gyfer plannu
  10. sut i ddehongli manylebau a dewis dulliau clirio priodol
  11. effeithiau cyflwr y safle ar y dewis o ddulliau clirio
  12. y dulliau cywir o waredu deunydd dros ben a/neu wastraff
  13. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  14. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer

Cwmpas/ystod

​Dulliau llaw:

  • chwistrellu cemegol
  • torri
  • casglu a gwaredu gwastraff
  • taenu
  • clirio

Dulliau mecanyddol –defnyddio tri o'r canlynol:

  • asglodi
  • tynnu bonion
  • crafu malurion
  • bwndelu malurion
  • defnyddio peiriannau offer ysgafn a thrwm

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai'r safleoedd gynnwys:

  • maes glas
  • dynodedig
  • adfail trefol
  • tir wedi ei adfer
  • presennol
  • wedi ei ddiogelu

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw3

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Garddwriaeth a choedwigaeth, Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn, Tirluniwr, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

safleoedd; plannu; clirio