Cynnal gweithrediadau tocio coed o’r awyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio uwchlaw'r ddaear i gynnal gweithrediadau tocio coed o'r awyr. Mae'n cynnwys lleihau, codi corun, aildocio, teneuo a glanhau corun.
Bydd angen i chi gynnal gwerthusiad o beryglon y goeden a chynnal asesiad "gweithio ar uchder" cyn dechrau'r gwaith hwn. Ceir mynediad i'r goeden trwy ddulliau priodol cydnabyddedig ac yn unol â'r asesiadau uchod.
Byddwch yn dewis offer tocio addas i'r gwaith i gael ei wneud.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Mae'r safon hon ond yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gymwys yn dringo coed a/neu'n defnyddio Llwyfan Gwaith Uchel Symudol (MEWP).
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig, yn cynnwys gweithio ar uchder
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- dewis a defnyddio mynediad a dulliau gosod sydd yn briodol i'r peryglon a aseswyd a'r datganiad dull
- archwilio'r offer mynediad er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas i'w ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a'r ddeddfwriaeth berthnasol
- dewis pwynt angor priodol ar gyfer yr offer mynediad fel nad yw'r pwynt/safle angori yn cael ei beryglu gan y goeden nac unrhyw ran o'r gwaith sy'n cael ei wneud
- ailasesu'r pwynt angori ar gyfer mynediad neu safle'r Llwyfan Gwaith Uchel Symudol (MEWP) trwy gydol y gwaith
- cyfathrebu gyda staff ar y ddaear mewn perthynas ag ymddangosiad a chynnydd y gweithrediad tocio o'r awyr
- cynnal gwaith tîm effeithiol wrth weithio gydag eraill i docio'r goeden o'r awyr
- dehongli'r fanyleb a mesuriadau'r cymwysiadau
- cyflawni gweithrediad tocio o'r awyr yn unol ag amcanion rheoli
- sicrhau bod yr holl ddeilliannau'n cael eu gollwng i mewn i'r parth gollwng a gynlluniwyd heb beryglu offer mynediad na niweidio'r isadeiledd
- ymdrin yn briodol â'r deilliannau
- ymdrin ag unrhyw broblemau o fewn eich lefel cyfrifoldeb chi
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- y mesurau rheoli i'w gweithredu ar gyfer y peryglon cysylltiedig, yn cynnwys gweithio ar uchder
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y cynlluniau a'r gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- sut i archwilio'r offer a ddefnyddir yn y gweithrediadau tocio o'r awyr
- sut i ddewis a pharatoi offer ar gyfer y gweithrediadau tocio o'r awyr
- goblygiadau rhywogaethau gwahanol o goed, eu cyflwr a'r adeg o'r flwyddyn, wrth gynllunio i gynnal gweithrediadau tocio, hefyd sut bydd y rhain yn effeithio ar y gwaith
- sut i werthuso'r goeden am beryglon sy'n berthnasol i weithrediadau tocio coed a goblygiadau'r peryglon a nodwyd
- egwyddorion sylfaenol bioleg coed a sut y mae'r rhain yn effeithio ar weithrediadau tocio coed
- manteision ac anfanteision yr offer tocio sydd ar gael i'r gweithrediadau tocio
- pwysigrwydd toriadau cywir a phriodol wrth dynnu'r canghennau
- yr amddiffyniadau ychwanegol sy'n ofynnol wrth aildocio coed
- y telerau a'r mesuriadau tocio arferol
- y telerau mesur a sut i'w cymhwyso
- pwysigrwydd gwirio pa mor dda y gwnaethoch weithio gydag eraill wrth docio coed o'r awyr
- pwysigrwydd gwerthuso'r camau a gymerwyd wrth ymdrin ag unrhyw broblemau wrth gynnal y gweithrediadau tocio o'r awyr
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cynnal gweithrediadau tocio trwy ddringo neu ddefnyddio MEWP neu'r ddau:
- gostyngiadau
- codi corun
- aildocio
- teneuo
- glanhau corun