Cynnal gweithrediadau achub o’r awyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal gweithrediadau achub o'r awyr. Mae'n cynnwys cael mynediad i goed trwy ddringo (gan ddefnyddio ysgolion ac offer dringo) neu Lwyfan Gwaith Uchel Symudol (MEWP), i achub mewn amrywiaeth o gyd-destunau (e.e. gweithrediadau tocio, torri, dadelfennu neu rigio). Mae achub o'r awyr yn cynnwys achub cleifion ymwybodol ac anymwybodol.
Wrth achub o'r awyr mae'n rhaid i chi gynnal safonau iechyd a diogelwch uchel bob amser ar gyfer eich hun a'r bobl y byddwn yn dod i gysylltiad â nhw.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Mae'r safon hon ond yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gymwys i ddringo coed a/neu ddefnyddio MEWP.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu'r dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cynnal gwaith tîm effeithiol wrth weithio gydag eraill er mwyn cynnal gweithrediadau achub o'r awyr
- cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol gyda'r holl bobl sydd yn gysylltiedig â'r gweithrediadau achub o'r awyr
- asesu'r unigolyn ac unrhyw anafiadau posibl
- asesu'r sefyllfa achub ac unrhyw beryglon yn sgil achub o'r awyr, yn ôl y wybodaeth sydd ar gael
- ffurfio cynllun ar gyfer achub o'r awyr, dewis dulliau mynediad ac achub sydd yn ddiogel, yn briodol ar gyfer y sefyllfa ac yn unol â chanllawiau a chodau ymarfer perthnasol y diwydiant
- dewis, paratoi a defnyddi offer a chyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cyflawni'r cynllun achub o'r awyr ac achub y claf o'r goeden
- wrth gyrraedd y claf, gweinyddu'r cymorth cyntaf priodol, yn seiliedig ar eu hasesiad nhw o'u cyflwr a'ch hyfforddiant chi
- dod â'r claf i'r ddaear a pharhau gyda chymorth cyntaf fel y bo angen nes gall y gwasanaethau brys gymryd drosodd
- cofnodi manylion y digwyddiad yn glir ac yn gywir
- hysbysu ynghylch y digwyddiad yn unol â pholisïau a gofynion cyfreithiol perthnasol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- sut i gynllunio achub o'r awyr a'r elfennau allweddol y mae angen eu cynnwys
- y cynlluniau a'r gweithdrefnau brys a ddefnyddir ar gyfer achub o'r awyr
- sut i gychwyn y cynllun brys
- sut i asesu'r prif beryglon yn y goeden a'r ardal gyfagos a'r anawsterau gweithredol yn achub o'r awyr
- sut i ddatrys yr anawsterau gweithredol wrth achub o'r awyr
- sut i asesu'r sefyllfa ac anghenion y claf a phenderfynu a oes angen y gwasanaethau brys
- y dulliau achub gofynnol sy'n briodol i ystod o sefyllfaoedd posibl yn cynnwys cael claf ymwybodol neu anymwybodol
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- sut i achub o'r awyr gan ddefnyddio dulliau yn cynnwys llinellau claf ac achubwr, a llinell achubwr yn unig, mewn sefyllfaoedd gwahanol
- y sefyllfaoedd pan nad achub o'r awyr trwy ddringo fydd y dull mwyaf priodol
- sut bydd rhywogaethau a chyflwr coed yn effeithio ar weithredoedd achub
- sut i gychwyn a chynnal cyfathrebu effeithiol yn ystod achub o'r awyr gyda'r canlynol: y claf, cydweithwyr, y cyhoedd yn gyffredinol a'r gwasanaethau brys
- sut i achub o'r awyr gan ddefnyddio Llwyfan Gwaith Uchel Symudol (MEWP) a goblygiadau'r terfyn llwyth gwaith diogel (SWL) ar y weithred achub
- egwyddorion sylfaenol cymorth cyntaf a sut y gellir eu cymhwyso, yn ôl eich lefel chi o hyfforddiant
- pwysigrwydd gwerthuso'r camau a gymerwyd wrth gynnal gweithrediadau achub o'r awyr
- pwysigrwydd gwirio pa mor dda y gwnaethoch weithio gydag eraill i gynnal gweithrediadau achub o'r awyr
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Gwneud y canlynol trwy ddringo, gan ddefnyddio MEWP neu'r ddau:
- achub dioddefwr sydd yn ymwybodol
- achub dioddefwr sydd yn anymwybodol
- achub dioddefwr ger prif fonyn y goeden
- achub dioddefwr yn y corun i ffwrdd o'r brif fonyn
- achub dioddefwr o bolyn
- achub gweithredwr Llwyfan Gwaith Uchel Symudol sydd wedi ei anafu
- defnyddio tîm achub o ddau berson neu fwy