Cynorthwyo cydweithwyr sydd yn gwneud gwaith uwchlaw’r ddaear

URN: LANTw27
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cydweithwyr sydd yn gwneud gwaith uwchlaw'r ddaear.  Mae'r safon yn cynnwys paratoi a chynnal safleoedd gwaith yn ddiogel, cefnogi a chynorthwyo cydweithwyr sydd yn gweithio uwchlaw'r ddaear, a thrin a gwaredu deilliannau neu gweddillion â llaw.

Mae angen i unrhyw un sydd yn gysylltiedig â gosod arwyddion rhybudd ar briffyrdd cyhoeddus gael eu goruchwylio gan berson cymwys yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  6. gwirio, paratoi, diogelu a sicrhau offer ychwanegol i gynorthwyo cydweithwyr sydd yn gwneud gwaith coed uwchlaw'r ddaear
  7. cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
  8. mewn cysylltiad â'r dringwr, trosglwyddo ac adfer offer i'r dringwr yn y goeden
  9. mewn cysylltiad â'r dringwr, mynd i'r parth gollwng i symud pren neu ddeilliannau yn ddiogel ac yn effeithiol
  10. ymdrin â'r deilliannau yn unol ag arferion gwaith diogel ac ystyriaethau amgylcheddol
  11. cyfathrebu'n effeithiol gydag eraill trwy gydol y gwaith, yn cynnwys y cleient ac aelodau o'r cyhoedd
  12. monitro'r sefyllfa'n barhaus a hysbysu'r dringwr yn brydlon ac yn glir ynghylch unrhyw newidiadau o ran peryglon a risg ar y safle
  13. mewn cysylltiad â'r dringwr, didoli, trefnu a chynnal y system ddringo
  14. sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
  15. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  6. y cynllun a'r gweithdrefnau brys (yn cynnwys adfer amgylcheddol ac achub o'r awyr)
  7. sut i fonitro a rheoli safleoedd er mwyn sicrhau gweithio diogel (mewn cysylltiad â'r dringwr)
  8. pam mae angen cymorth ar gydweithwyr sydd yn gwneud gwaith coed uwchlaw'r ddaear
  9. sut i gynorthwyo'r dringwr i sicrhau bod offer a systemau mynediad yn gweithio'n ddiogel
  10. sut i drosglwyddo ac adfer offer i'r dringwr yn y goeden yn ddiogel
  11. pam y mae'n bwysig symud deilliannau o'r parth gollwng cyn gynted ag y mae'n ddiogel gwneud hynny
  12. sut i gychwyn a chynnal cyfathrebu effeithiol trwy gydol y gwaith gyda chydweithwyr, y cleient a'r cyhoedd
  13. egwyddorion sylfaenol arferion coed a sut maent yn effeithio ar eich gwaith
  14. sut bydd rhywogaethau a chyflwr y coed yn effeithio ar eich gwaith
  15. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dringwr, yn yr achos hwn, mae'n golygu'r person sy'n gweithio uwchlaw'r ddaear, a allai gynnwys Llwyfannau Gwaith Uchel Symudol neu raff a harnais**

Offer mynediad yn cynnwys mynediad a ffordd allan, Llwyfannau Gwaith Uchel Symudol (MEWP), rhaffau hongian, mynediad â rhaff, safle rhaffau, ysgolion, sgaffaldiau, craeniau, ysbigau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw27

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwigoedd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

uwchlaw’r ddaear; coeden; dringwr; rhaff a harnais