Defnyddio tociwr coedenar ben polyn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio tociwr coeden ar ben polyn. Mae'n disgrifio'r safon ar gyfer tocio coed gan ddefnyddio offer tocio cyrhaeddiad pell ar ben polyn, a allai gynnwys: llifau tocio sy'n ymestyn, tocwyr polyn â phŵer, neu frigdocwyr.
Torrir y coed trwy dynnu'r canghennau gan ddefnyddio toriadau yn unol â'r safon gyfredol ar gyfer tocio mewn gwaith coed.
Nid yw'r safon hon yn cynnwys defnyddio tocwyr gwrych.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael yr hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dull gweithio priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol priodol (PPE) ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- sefydlu ardal waith ddiogel yn cynnwys safle gwaith diogel ar gyfer tynnu canghennau gan ddefnyddio tociwr coed ar ben polyn
- paratoi'r safle trwy dynnu rhwystrau yn yr ardal docio, yn cynnwys llystyfiant sy'n dringo, fel y bo'n briodol
- dewis dulliau tocio sy'n berthnasol i'r fanyleb a roddir, maint a chyflwr y canghennau
- lleihau a thynnu canghennau gan ddefnyddio toriadau priodol, ac yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr
- ymdrin â gwastraff yn briodol
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- cynlluniau a gweithdrefnau brys sy'n berthnasol i'r safle
- sut i adnabod pa goed sydd angen eu tocio a'r dull tocio i'w ddefnyddio
- sut i ddewis yr offer priodol ar gyfer y gwaith gofynnol
- sut i adnabod tensiwn a chywasgiad yn y canghennau, a'r ffyrdd o ddileu llif sy'n mynd yn gaeth mewn toriad
- y dulliau o leihau a thocio canghennau trwm a/neu hir gan ddefnyddio tociwr coed ar ben polyn
- y goblygiadau i waith rhywogaethau gwahanol o goed, eu cyflwr a'r amser o'r flwyddyn pan fyddwch yn bwriadu tocio
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
*Dulliau tocio:
*
Tocio targed yw torri'n ôl i gangen neu foncyff, gan ddefnyddio proses o dri thoriad fel arfer. Dylid gwneud y toriadau i gyd y tu allan i linell ponc rhisgl y gangen a/neu gangen goler y gangen neu'r boncyff.
Tocio ffurfiannol yw tynnu, er enghraifft, blagur blaenllaw eilaidd diangen a ffyrch a allai fod yn wan a allai fethu mewn tywydd gwael fel gwynt cryf neu eira.
Mae Teneuo corun yn cynnwys tynnu cyfran o gangen fyw, eilaidd, fach trwy gydol y corun i greu dwysedd cytbwys o ddail o amgylch strwythur cangen cytbwys.
Barbro yw tynnu'r holl ganghennau oddi ar goeden.
Lleihau'r corun yw torri'n ôl i flaguryn neu gangen ochr i gadw llinell o ganghennau heb adael, yn arbennig, bonion "rhyngnodol".
Ail-lunio'r corun yw cyfuniad o docio ffurfiannol a lleihau corun.
Mae Codi'r corun yn golygu tynnu'r canghennau isod oddi ar goeden i uchder penodol uwchlaw'r ddaear, naill ai trwy dynnu canghennau cyfan neu'r rhannau hynny sy'n ymestyn islaw'r uchder clir dymunol yn unig.
Mae Twf gwaelodol yn deillio o docio llawer o rywogaethau, hyd yn oed pan gânt eu gwneud i safon, lle gall egin newydd lluosog dyfu'n gyflym iawn o ganlyniad, yn arbennig pan gânt oleuni llawn.