Cynnal gweithrediadau torri coed gyda chymorth

URN: LANTw25
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gweithrediadau torri coed gyda chymorth. Mae'n cynnwys defnyddio llinellau tynnu un cyfeiriad, winshis llaw neu winshis mecanyddol – fel y bo'n briodol i faint a phwysau'r goeden.

Mae hyn yn cynnwys coed conifferaidd a dail llydan; coed unionsyth; coed sydd wedi eu pwysoli tuag at a choed sydd wedi eu pwysoli yn erbyn cyfeiriad torri penodol.

Mae'r offer cynorthwyol sydd yn addas ar gyfer systemau torri coed gyda chymorth yn cynnwys rhaffau tynnu, dyfeisiadau ffrithiant, ceblau, strapiau, cadwynau, hualau/cysylltwyr, cipflociau pwli a dyfeisiadau eraill fel clampiau ymestyn cebl.

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r angen am gyfathrebu clir rhwng gweithredwr y llif gadwyn a gweithredwr y system dynnu pan na ellir cynnal llinellau golwg, yn unol â'r asesiad risg penodol.

Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael yr hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. amcangyfrif y llwyth a dewis offer gwaith priodol ar gyfer y llwyth
  5. dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar sy'n briodol ar gyfer gwneud y gweithrediadau torri coed gyda chymorth ac sy'n addas ar gyfer cyflwr y safle
  6. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  7. dewis cyfeiriad syrthio sy'n briodol i ffurf y goeden a chyflwr y safle
  8. gosod yr offer tynnu yn unol â'r asesiad risg penodol er mwyn sicrhau diogelwch yr holl weithredwyr sy'n gysylltiedig â'r gweithrediad
  9. dewis a defnyddio pwyntiau angor addas, sy'n ddigonol ar gyfer y llwyth a ragwelir, fel y bo angen
  10. dewis a gosod pwynt(iau) cysylltu digonol yn y goeden fydd yn cael ei thorri i lawr i roi diogelwch digonol a digon o drosoledd i'r system dynnu
  11. sefydlu system gyfathrebu glir rhwng gweithredwr y llif gadwyn a gweithredwr y system dynnu
  12. sefydlu system tynnu ddiogel yn unol ag arfer da y diwydiant
  13. rhoi tensiwn ymlaen llaw ar y system dynnu er mwyn sicrhau bod yr holl rannau'n weithredol
  14. gwneud toriadau fel y bo'n briodol i'r goeden a'r bar canllaw, gan ddefnyddio offer cymorth (lletemau), fel y bo'n briodol
  15. sicrhau bod y coed mewn safle diogel a phriodol i ganiatáu gweithrediadau dilynol
  16. dilyn arfer da amgylcheddol fel y nodwyd gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
  17. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  6. sut i amcangyfrif y llwyth
  7. sut i bennu'r offer tynnu priodol ar gyfer cwymp cynorthwyol ystod o fathau/pwysau coed
  8. cymhwysiad a chyfyngiadau mathau gwahanol o offer tynnu
  9. sut i archwilio a gweithredu offer ac adnabod diffygion yn unrhyw un o gydrannau'r system dynnu
  10. pwysigrwydd cyfathrebu clir wrth gynnal gweithrediadau torri coed gyda chymorth a'r dulliau cyfathrebu amgen sydd ar gael pan na ellir cynnal llinellau golwg clir
  11. y technegau a ddefnyddir i sefydlu system dynnu torri coed gyda chymorth yn ddiogel sy'n ddigonol ar gyfer y llwyth a ragfynegir yn y goeden berthnasol
  12. yr angen i dynnu naill ochr wrth weithredu mewn safleoedd cyfyng neu ar safleoedd â llethrau serth
  13. yr angen i ddewis y cyfeiriad torri yn gywir a phwysigrwydd defnyddio technegau torri /toriadau priodol
  14. buddion ymgorffori system 'dal yn ôl' i'r toriad cwympo ar gyfer gweithrediadau torri coed gyda chymorth
  15. canlyniadau peidio cynnal gweithrediad torri coeden gyda chymorth mewn ffordd drefnus a phriodol
  16. sut i asesu gofynion dal colyn rhywogaethau gwahanol o goed
  17. sut i wneud toriadau i greu dimensiynau colyn i fodloni gofynion rhywogaethau, cyflwr a thoriadau gwahanol coed
  18. y defnydd o gymhorthion cwympo
  19. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  20. eich cyfrifoldebau chi yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​System gyfathrebu glir rhwng gweithredwr y llif gadwyn a gweithredwr y system dynnu – defnyddio mesurau ategol pan na ellir cynnal cyfathrebu gweledol clir, yn unol ag asesiad risg penodol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw25

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwigoedd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cwymp â chymorth; offer tynnu; pwysau; llwyth