Torri coed wedi eu dadwreiddio neu eu chwythu gan wynt gan ddefnyddio llif gadwyn Legacy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thorri coed wedi eu dadwreiddio neu eu chwythu gan wynt gan ddefnyddio llif gadwyn. Mae hyn yn cynnwys coed sydd wedi cael eu chwythu gan wynt neu eu dadwreiddio trwy niwed storm, symudiad y ddaear neu gyfrwng ffisegol arall. Ni fydd y coed mewn sefyllfa sydd angen cymorth gan y gwasanaethau brys na chwmnïau cyfleustodau.
Bydd safleoedd lluosog wedi eu heffeithio gan wynt yn gofyn am gynllun i gwblhau'r gwaith. Bydd trefn y gwaith yn aml yn cynnwys torri a thynnu coed wedi eu chwythu a'u torri'n rhannol gan wynt cyn torri platiau gwreiddiau o goesau wedi eu chwythu'n llawn.
Bydd y coed dros ac o dan hyd y bar canllaw mewn diamedr a byddant wedi eu dadwreiddio'n llawn ac yn rhannol. Mae hyn hefyd yn cynnwys torri platiau gwreiddiau sydd yn hongian dros safle torri gweithredwr y llif gadwyn gan ddefnyddio peiriant mecanyddol neu beiriant priodol arall ar gyfer atal.
Mae hyn hefyd yn disgrifio torri coed wedi eu chwythu'n rhannol (pwyso) a thorri coed wedi eu torri gan wynt (drylliedig) i lawr gyda'r brig a heb y brig ynghlwm.
Gellir defnyddio winshis neu beiriannau priodol eraill i atal coed â thensiwn ar ochr neu lle mae'r bôn yn debygol o rolio.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- gwerthuso eich cymhwysedd eich hun i barhau â'r gweithrediadau a chael cyngor lle bo angen
- cynllunio ymagwedd systematig tuag at y gwaith o dorri coed wedi eu dadwreiddio neu eu chwythu gan wynt er mwyn sicrhau nad oes unrhyw goed neu blatiau gwreiddiau ansefydlog yn hongian dros y safleoedd torri a briffio'r holl weithredwyr ar y safle yn drwyadl
- paratoi'r safle trwy ddileu rhwystrau yn ffordd y safle gwaith a sefydlu llwybr dianc, fel y bo'n briodol
- paratoi'r bonion trwy dynnu brigau, llystyfiant sydd yn dringo, prysgwydd a rhwystrau eraill, fel y bo'n briodol
- nodi tensiwn a chywasgiad mewn bonion a dewis dull torri adnabyddus sy'n briodol i faint a chyflwr coed sydd o dan a thros hyd y bar canllaw o ran diamedr
- torri'r platiau gwreiddiau oddi tan a thros ddiamedr bonion y bar canllaw gan ddefnyddio'r toriadau cywasgu a thensiwn priodol, gan ddefnyddio offer atal fel y bo'n briodol
- paratoi a thorri coed wedi eu chwythu gan wynt i lawr gan ddefnyddio'r dulliau a'r offer cymorth priodol
- sicrhau bod y coed a'r platiau gwreiddiau mewn safle diogel a phriodol i alluogi'r gweithgareddau dilynol
- dewis a defnyddio offer ar gyfer atal y goeden sy'n briodol ar gyfer maint a chyflwr y goeden a'r plât gwreiddiau
- dilyn arfer da amgylcheddol fel y nodwyd gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- sut i adnabod tensiwn a chywasgiad ar y brig, gwaelod a'r ochr mewn pren
- y peryglon sy'n gysylltiedig â'r rhagofalon i'w cymryd gan weithredwr y llif gadwyn wrth dorri pren o dan densiwn uchel
- sut i wybod pan fo angen ataliaeth winsh ar blât gwreiddyn neu fôn
- sut i ddefnyddio winsh neu ddull mecanyddol arall ar gyfer atal tensiwn ochr neu atal pren rhag rholio/symud ar lethr
- y dulliau a'r peryglon o dorri "boncyff hir" wrth dorri bonion wedi eu claddu neu blatiau gwreiddiau ansefydlog
- y dulliau amgen y gellir eu defnyddio i dorri pren o dan densiwn trwm iawn, fel toriadau "V", a'r peryglon ychwanegol a'r rhagofalon i'w cymryd
- sut i wneud y platiau gwreiddiau yn ddiogel ar ôl eu torri
- y cyfyngiadau i'w hystyried a'r rhagofalon diogelwch ychwanegol i'w cymryd wrth ddefnyddio winshis i atal platiau gwreiddiau sydd yn hongian drosodd
- y mathau o winsh sydd yn addas ar gyfer atal platiau gwreiddiau a sut maent yn gweithredu
- sut i ddewis pwyntiau angor sy'n ddigonol ar gyfer y llwyth ac amddiffyniadau'r gweithredwr rhag ofn bydd y pwynt angor yn methu, yn cynnwys ystyried grymoedd wedi eu lluosogi ar bwyntiau angor, fel rigio dwbl neu dynnu wedi ei wrthbwyso (dargyfeirio)
- sut i ddewis, sefydlu a defnyddio winsh ac offer cynorthwyol addas ar gyfer rigio dwbl a thynnu wedi ei wrthbwyso (dargyfeirio)
- yr ardaloedd peryglus mewn perthynas â'r system winsio, bôn y goeden a'r plât gwreiddyn
- y sefyllfaoedd lle byddai arolygwr (person gwylio) yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o gyfathrebu gyda'r gweithredwr
- y rhesymau a'r dulliau dros atal tensiwn ochr mewn bonion wedi eu dadwreiddio
- sut i adnabod sefyllfaoedd lle nad yw torri â llif gadwyn yn briodol
- y dulliau o dorri coed wedi eu dadwreiddio, o dan a thros hyd y bar canllaw mewn diamedr
- sut i dorri coed wedi eu dadwreiddio neu eu chwythu gan wynt yn rhannol
- sut i dorri coed wedi torri i lawr gyda'r brig ynghlwm neu goed wedi torri heb unrhyw frig
- manteision a'r dulliau o dynnu brig wedi torri cyn torri'r goeden i lawr
- y problemau a'r dulliau gwaith sy'n gysylltiedig â thorri coed wedi torri i lawr
- yr amddiffyniadau ychwanegol wrth dorri bonion sy'n sefyll â phlatiau gwreiddiau ansefydlog i lawr
- Y peryglon posibl a'r amddiffyniadau sy'n ofynnol wrth dorri'r brig heb dorri'r plât gwreiddiau
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Bydd offer cynorthwyol sy'n addas ar gyfer y winsh ac ati yn cynnwys ceblau, strapiau, cadwynau, hualau, cipflociau pwli a dyfeisiadau eraill, fel clampiau ymestyn cebl
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arolygwr – person gwylio